Cydnabod cyfraniad menywod yn y Sioe Fawr rithiol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
A line up of cows at the Royal Welsh ShowFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd yn cael ei chynnal yn rhithiol eto eleni

"Mae cyfraniad merched i'r byd amaethyddol yn anhygoel ac yn aml ddim yn cael digon o sylw," medd Tegwen Morris, cyfarwyddwr Merched y Wawr.

Yr wythnos hon yn y Sioe Fawr rithiol mae'r sefydliad wedi trefnu y bydd modd clywed am gyfraniad tair mam a merch - yn eu plith Eurgain Jones a'i merch Eiddwen sy'n ffermio yn Llansannan yn Sir Ddinbych.

"Mi ydan ni'n gry', 'dan ni ddim yn sylweddoli mor gry' ydan ni," medd Eurgain Jones.

"'Dan ni'n gallu bod yn gryf yn gorfforol ac yn sicr 'dan ni'n gry' yn feddyliol ond 'dan ni ddim yn gwybod hynny tan gawn ni sialens."

Yn 1998 fe wynebodd Eurgain Jones her fawr ei bywyd wedi iddi golli ei gŵr Philip yn sydyn wedi gwaeledd byr.

Roedd y ddau yn amaethu fferm 200 erw ac yn dechrau gwneud enw iddyn nhw eu hunain fel bridwyr defaid Texel o fri ac yn cadw gwartheg.

Ffynhonnell y llun, Eurgain Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae diadell Texel Eurgain Jones o Lansannan wedi ennill llu o wobrwyon

"Roedd y ddau blentyn yn eu harddegau ond rywsut doedd yna ddim dewis arall ond cario 'mlaen," meddai Ms Jones.

"'Nes i erioed ddychmygu y buaswn i'n gorfod cario'r baich wnes i ond gyda helpu teulu a'r gymdogaeth fe ddaeth y cyfan yn bosib.

"Rhaid oedd dysgu sgiliau newydd a chamu mewn i fyd dynion. Roedd rhaid mynd i'r farchnad i werthu stoc - yn aml iawn yr adeg honno fi oedd yr unig ferch yn y farchnad ond dwi'n falch o ddweud bod mwy erbyn hyn ac mae hynny'n wych.

"Rhaid oedd dysgu dreifio cerbyd â threlar, gosod decs i gario defaid, tynnu decs i gario gwartheg a dysgu ffordd newydd o ddreifio a bacio! Roedd dod i arfer â pheiriannau i dorri silwair ac yn y blaen yn gryn her.

"Ond mi es i amdani a rhoi cryn sylw i fridio y defaid Texel, a do mi fues i'n ffodus iawn i ennill cystadleuaeth prif bencampwr y Sioe Fawr un flwyddyn ac mae'r ddiadell Texel sydd gen i wedi ennill y wobr o fod yr un orau yng Nghymru ddwywaith.

"Mae cystadlu mewn sioeau yn bwysig iawn i mi - rhai bach wrth gwrs achos eu bod yn rhan mor bwysig o gefn gwlad a hefyd y Sioe Fawr - Wimbledon y byd amaethyddol."

Yn 2007 enillodd Eurgain Jones wobr Ffermwraig y Flwyddyn a chafodd y cyfle i fod llysgenhades dros gyfraniad merched i fyd amaeth.

Ffynhonnell y llun, Eurgain Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eiddwen Hughes wedi ennill llu o wobrau mewn sioeau mawr a bach

Hefyd yn rhannu ei phrofiadau yn ystod y sioe rithiol fydd Eiddwen Hughes, merch Eurgain.

Roedd hi'n 14 oed pan fu farw ei thad ac y mae hi bellach yn rhedeg y fferm gyda'i mam.

Mae Eiddwen hefyd yn marchogaeth, wedi bod yn aelod o dîm marchogaeth Cymru ac wedi ennill sawl gwobr ryngwladol.

Ffynhonnell y llun, Eiddwen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eiddwen Hughes wedi marchogaeth dros Gymru ac wedi ennill sawl gwobr ryngwladol

"Peidiwch bod ag ofn dim byd ferched - os cewch chi sialens, ewch amdani - 'da chi'n siŵr o lwyddo," medd Eurgain Jones.

Bydd modd gweld profiadau y mamau a'u merched ar gyfrif Facebook Merched y Wawr ac ar gyfrifon digidol y Sioe Amaethyddol.

Pynciau cysylltiedig