Merched mewn amaeth: 'Nid da lle gellir gwell'
- Cyhoeddwyd
Mae tipyn o waith i'w wneud eto i sicrhau fod menywod yn cael eu trin yn gyfartal ym maes amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd.
Dyna gasgliadau cynnar arolwg barn byd-eang sydd newydd eu cyflwyno yng Ngŵyl Ddigidol Menywod Ym Maes Bwyd Ac Amaeth.
Doedd hanner y rhai a holwyd ddim yn credu fod digon o fenywod mewn swyddi rheoli.
Mae Ann Jones yn Gomisiynydd i'r Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad. Gyda'i theulu, mae hi hefyd yn ffermio.
"Mae'n braf gweld merched ar flaen y gad mewn swyddi pwysig," meddai, "ond nid da lle gellir gwell.
"Fel ym mhob diwydiant, mae toriad mewn gyrfa i fagu plant yn dal nifer o ferched rhag dringo'r ysgol i swyddi uchel yn y sector. Er bod y sefyllfa wedi gwella tipyn erbyn hyn, mae digon o le i wella eto.
"Mae'r arferiad o'r dyn yn ffermio a'r wraig yn cadw tŷ a gwneud y gwaith papur yn dal yn fyw.
"Ond mae'n braf gweld y to ifanc yn rhannu'r gwaith a gwneud penderfyniade gyda'i gilydd."
Yn sgil y pandemig, mae Ann Jones yn pwysleisio fod nifer o fenywod wedi gorfod ymgymryd â sawl rôl yn ddiweddar, wrth iddyn nhw gyflawni eu swyddi arferol o'u cartrefi tra hefyd yn helpu gyda gwaith y fferm.
'Dim llawer i'w gweld yn y mart'
Mae Mary Richards yn gyn-bennaeth campws amaethyddol Gelli Aur Coleg Sir Gâr.
Bron chwarter canrif ers iddi ddechrau darlithio, mae hi'n credu fod cymdeithas wedi newid a ffermio wedi newid hefyd gyda'r oes.
"Pan ddechreues i yng Ngelli Aur, dim ond dwy mas o staff o 15 oedd yn fenywod," dywedodd.
"O'dd y myfyrwyr gan amla'n fois, ambell i ferch yn eu plith. Nawr, ma' bron hanner y staff yn fenywod a hanner y myfyrwyr yn ferched.
"Mae fel 'se'r diwydiant lot mwy agored i fenywod fynd i mewn iddo, a ma' nhw'n gweld cyfleoedd oddi mewn i'r diwydiant hwnnw."
Ond mae rhai arferion yn synnu Mary Richards.
"Os ti'n cael dosbarth newydd o fyfyrwyr newydd 16 oed yn cerdded mas ar y clos, a falle bod yna dractor mewn un lle, a defaid ac ŵyn mewn lle arall, bydde'r defaid yn tynnu sylw'r merched a'r tractor yn tynnu sylw'r bois. Bydden i'n gweud bod hynny dal yn dueddiad."
Mewn marchnadoedd da byw, dynion yn bennaf sy'n prynu a gwerthu.
"Se'n i'n mynd i unrhyw fart nawr, allen i edrych rownd, a dim ond rhyw dwy, tair menyw yna. Y dynion sy'n mynd i brynu a'r menywod gatre."
Newid yn natur cystadlu
O fewn mudiad y ffermwyr ifanc, CFFI Cymru mae'r cyfarwyddwr, y cadeirydd a'r dirprwy yn fenywod.
Mae cynnig cyfleoedd cyfartal i bawb yn hollbwysig, yn ôl Is-gadeirydd y mudiad, Caryl Haf.
"Pan ddechreuodd y mudiad, roedd yna gystadlaethau yn benodol i ferched ac eraill i fechgyn," meddai.
"Erbyn nawr, ma' 'da ni gystadlaethau lle mae merched a bechgyn yn erbyn ei gilydd mewn amrywiaeth eang o weithgareddau.
"Gyda gosod blodau a choginio, ma' merched a bechgyn yn cystadlu - a gyda barnu stoc, mae'r merched llawn mor frwd â'r bechgyn erbyn hyn.
"Yng nghystadlaethau rhithiol CFFI Cymru yn y Ffair Aeaf yn ddiweddar, y merched o'dd ar y brig yn nifer o'r cystadlaethau barnu stoc hyn."
'Y rhod wedi troi'
Roedd bron i hanner y rhai a holwyd yn yr arolwg barn diweddar yn dweud iddyn nhw brofi sylwadau rhywiaethol (sexist) yn y gweithle.
Dyw Mary Richards ddim wedi profi hynny'n bersonol, ac mae hi'n credu fod y rhod wedi troi.
"Rhyw bump, ddeng mlynedd yn ôl, o'dd y bois lot mwy tebygol o weud pethe wrth y merched - er enghraifft, bo' nhw'n rhy wan.
"Ond nawr, fe weli di fod y bois fel 'se nhw lot mwy gwyliadwrus o'r hyn ma' nhw'n ddweud, a dyw merched ddim yn cymryd e shwt gymaint."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018