Ailagor orielau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell GenedlaetholFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

"Fe fydd profiad yr ymwelydd ychydig yn wahanol yn sgil y pandemig," medd llefarydd

Wedi dros flwyddyn o fod ar gau bydd arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ailagor ddydd Llun, ond bydd yn rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.

"Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar croesawu'r cyhoedd yn ôl," medd Pedr ap Llwyd, prif weithredwr a llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.

"Er bod y llyfrgell wedi parhau i fod ar agor yn ddigidol trwy gydol y cyfnodau clo a darllenwyr wedi medru dychwelyd i'r adeilad i weithio, rwy'n ymwybodol iawn bod nifer yn awyddus i fedru ymweld eto â'r llyfrgell i fwynhau gwledd ein casgliadau arbennig.

"Er y bydd yr amgylchiadau yn gorfod bod ychydig yn wahanol er mwyn diogelu pawb, bydd y croeso'r un mor dwymgalon ag erioed."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Paratoi i roi 'Yr Wyddfa o Tŷ Obry' Kyffin Williams ar y wal yn barod erbyn ailagor ddydd Llun

Yn gynharach eleni roedd ofnau y byddai 30 o swyddi yn cael eu colli yn y Llyfrgell ond ym mis Chwefror fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi pecyn ariannol gwerth £2.25m i "ddiogelu'r swyddi".

Roedd deiseb yn galw am "gyllid teg" i'r llyfrgell wedi cael dros 14,000 o lofnodion.

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd cyfle gan y cyhoedd weld yr arddangosfa 'Ar Bapur' sef casgliad eang y llyfrgell o weithiau celf ar bapur sy'n cynnwys printiadau, lluniau dyfrlliw, gludweithiau, llyfrau braslunio a pheintiadau gan rai o artistiaid amlycaf Cymru.

Ymhlith pynciau'r casgliad mae gweithredu gwleidyddol, hiliaeth, bywyd ffoaduriaid a'r byd naturiol.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn rhan o'r arddangosfa Ar Bapur mae llyfr braslunio yr artist Gwilym Prichard

Gwaith arall a fydd yn cael sylw yw Byd Llenyddol Paul Peter Piech a dreuliodd ddegawd olaf ei fywyd ym Mhorthcawl.

Mae'n fwyaf adnabyddus am ei bosteri gwleidyddol ond mae cyfran o'i waith yn ymwneud â'r byd llenyddol, ac fe fydd yr arddangosfa yn ddathliad o berthynas unigryw'r gwneuthurwr printiau Americanaidd â Chymru.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Fe roddodd yr Americanwr Paul Peter Piech gryn sylw i'r byd llenyddol Cymreig

Bydd modd hefyd gweld 20 delwedd o'r Gymru fodern drwy 20 llun a dynnwyd gan y ffotograffydd Nick Treharne, a thrwy gydol yr haf bydd cyfle i bobl ymweld ag Oriel Gregynog ar ei newydd wedd.

"Mae diogelwch ein hymwelwyr a'n staff yn flaenoriaeth i'r llyfrgell, ac felly i leihau'r peryg o ledaeniad Covid-19 byddwch yn gweld fod rhai pethau wedi newid, sy'n golygu efallai bod profiad yr ymwelydd ychydig yn wahanol i'r arfer," medd llefarydd.

"Bydd angen i ni reoli nifer yr ymwelwyr sy'n gallu ymweld â'r adeilad yr un pryd ac felly rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw gan ddangos tocyn dilys yn y dderbynfa wrth gyrraedd."