Cyfres yr Haf: Cymru 11-33 Ariannin

  • Cyhoeddwyd
Tomás CubelliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tomás Cubelli sgoriodd ail gais yr Archentwyr yng Nghaerdydd

Cafodd Cymru diweddglo siomedig i Gyfres yr Haf wrth iddyn nhw gael eu trechu gan Ariannin yn Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn.

Daeth pwyntiau cynta'r gêm gan Owen Lane wedi wyth munud, gyda symudiad da gan olwyr Cymru yn gorffen gyda'r asgellwr yn croesi yn y gornel.

Ond o fewn ychydig funudau roedd yr ymwelwyr wedi taro 'nôl gyda chais gan Matias Moroni, gyda'r trosiad yn rhoi'r Archentwyr ar y blaen am y tro cyntaf.

Llwyddodd y Pumas i gymryd rheolaeth o'r gêm am yr 20 munud nesaf, gan fynd ymhellach ar y blaen gyda gôl gosb gan Nicolás Sánchez a chais gan Tomás Cubelli.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr asgellwr Owen Lane sgoriodd unig gais y prynhawn i Gymru

Gôl gosb gan Jarrod Evans oedd y pwyntiau olaf yn yr hanner cyntaf, gan olygu ei bod yn 17-8 i Ariannin ar yr egwyl.

O droed Evans y daeth pwyntiau cyntaf yr ail hanner hefyd i ddod â Chymru o fewn chwe phwynt i'r ymwelwyr, cyn i Sánchez adfer eu mantais.

Gydag 20 munud yn weddill fe welodd Hallam Amos gerdyn melyn am daclo Santiago Carreras yn yr awyr cyn i Sánchez sgorio o gic gosb arall.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hallam Amos yn ffodus i osgoi cerdyn coch am daclo Santiago Carreras yn yr awyr

Roedd diffyg profiad a disgyblaeth y Cymry yn dangos, gyda nifer o gamgymeriadau a throseddau gan y tîm ifanc.

Ychwanegodd Sánchez driphwynt arall cyn i'r blaenasgellwr Pablo Matera ychwanegu trydydd cais yn yr eiliadau olaf i roi buddugoliaeth swmpus i'r Pumas.

Pynciau cysylltiedig