Teyrngedau i gricedwr 44 oed fu farw ym Mro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Maqsood AnwarFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un o'i ffrindiau bod "Maqsood yn un o'r dynion mwyaf cyfeillgar allech chi ei 'nabod"

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i ddyn 44 oed fu farw yn sydyn tra'n chwarae criced ym Mro Morgannwg.

Bu farw Maqsood Anwar o'r Barri tra'n chwarae i glwb criced Sili yn erbyn Coed y Mynach brynhawn Sadwrn.

Mae'r digwyddiad wedi ennyn galwadau am sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ar bob maes chwarae.

Mae nifer o glybiau criced wedi rhoi teyrngedau iddo ar gyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd clwb criced Sili eu bod yn "galaru wedi i ni golli un o'n chwaraewyr brynhawn Sadwrn".

'Gwir ŵr bonheddig'

Ychwanegodd glwb criced Y Barri fod Mr Anwar, oedd yn dad i dri o blant, wedi chwarae i'r clwb am dros 15 mlynedd.

"Mae ein cydymdeimladau dwysaf yn mynd i deulu Max. Rydyn ni oll mewn sioc," meddai'r clwb ar Twitter.

"Mae'r byd wedi colli gwir ŵr bonheddig. Cwsg mewn hedd Max."

Dywedodd clwb criced Bae Caerdydd: "Mae cymuned criced Caerdydd yn un fechan ac mae gan nifer o'n chwaraewyr ni atgofion melys ohono fel ffrind a chricedwr. Cwsg mewn hedd Maqsood."

'Mor drasig'

Dywedodd un o'i ffrindiau, Zia Gehlan wrth BBC Cymru: "Mae mor drasig - fe wnes i siarad gydag ef ddoe. Dyma oedd ei drydedd gêm i Sili ar ôl chwarae i'r Barri cyn hynny. Roedd ar ben ei ddigon am y peth.

"Fe wnaeth Max fowlio pedair pelawd a chael ychydig o boen yn ei frest. Doedd e ddim yn teimlo'n dda, ac roedd yn meddwl mai wedi gorboethi oedd e, a cafodd ambiwlans ei galw.

"Fe wnaeth y parafeddygon gadarnhau ei fod wedi cael trawiad ar y galon - fe wnaethon nhw geisio ei adfywio ond roedd hi'n rhy hwyr.

"Roedd Maqsood yn un o'r dynion mwyaf cyfeillgar allech chi ei 'nabod.

"Fe ddylai diffibriliwr fod wedi bod ar y safle. Os ydy clybiau yn gallu fforddio gorchuddion ar gyfer y cae fe ddylai hyn gael ei ariannu hefyd."

'Nifer y diffibrilwyr yn cynyddu'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "nifer y diffibrilwyr mewn cymunedau ac adeiladau ar draws Cymru yn cynyddu'n gyson a byddwn yn annog pobl i'w cofrestru gyda'r gwasanaeth ambiwlans".

"Rydyn ni wedi rhoi nawdd i ymgyrch Achub Bywyd Cymru, sy'n gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys sefydliadau chwaraeon, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd hyfforddiant CPR a'r defnydd o ddiffibrilwyr trwy'r ymgyrch Cyffwrdd â Bywyd."

Pynciau cysylltiedig