'Fyddai'n amhriodol i'r Frenhines agor y Cynulliad'

  • Cyhoeddwyd
Frenhines
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines yn ystod agoriad pumed Cynulliad Cymru yn 2016

Mae dogfennau llywodraeth y DU sydd newydd eu rhyddhau yn dangos bod y Swyddfa Gartref wedi rhoi cyngor cyn refferendwm datganoli 1997 na ddylai'r Frenhines agor Cynulliad Cymreig, petai'n dod i fodolaeth.

Ysgrifennodd swyddog yn Downing Street ar y pryd na fyddai'r corff newydd yn gallu creu ei ddeddfau ei hun ac felly ni fyddai "cysylltiadau uniongyrchol gyda'r sofran yn codi".

Ond pan agorwyd y Cynulliad cyntaf yn swyddogol ar 27 Mai 1999 fe roedd y Frenhines, Dug Caeredin a'r Tywysog Charles yn bresennol.

Mae'r dogfennau sydd wedi eu rhyddhau i'r Archif Genedlaethol hefyd yn amlygu cyngor i'r Prif Weinidog Llafur ar y pryd, Tony Blair ymweld â Chymru i gryfhau'r gefnogaeth dros sefydlu Cynulliad yn y refferendwm.

Rhagdybiaeth

Dywed llythyr un o swyddogion y Swyddfa Gartref ar 19 Mehefin 1997 y byddai'n fwriad i'r Frenhines agor Senedd yn Yr Alban.

Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud: "Nid ydym o'r farn y byddai'r un driniaeth yn briodol yn achos y Cynulliad Cymreig, sydd heb unrhyw swyddogaethau deddfwriaethol sylfaenol."

Ychwanegodd na fu unrhyw drafodaeth ynghylch y mater gan aelodau is-bwyllgor datganoli "fwyaf tebyg oherwydd rhagdybiaeth yn achos corff sy'n hollol ddarostyngol i Senedd San Steffan, ni fyddai cysylltiadau uniongyrchol gyda'r sofran yn codi".

Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines yn agor y Cynulliad cyntaf yng Nghaerdydd yn 1999

Pan sefydlwyd y Cynulliad - Senedd Cymru erbyn hyn - nid oedd yn cael creu ei ddeddfau ei hun, ond fe newidiodd hynny yn 2011 yn dilyn refferendwm pellach.

Mae'r Frenhines wedi ymweld â'r Senedd sawl tro ers 1999, gan gynnwys agoriad swyddogol yr adeilad yn 2007.

Cyngor i Blair

Mae'r dogfennau hefyd yn dangos bod Tony Blair wedi cael ei annog i ymweld â Chymru cyn y refferendwm i ymgyrchu dros sefydlu Cynulliad gan fod y farn ymhlith pobl Cymru'n "union gytbwys".

Yn y cofnod, fe fynegodd un o swyddogion Downing Street bryder bod rhan helaeth trafodaethau Llywodraeth y DU wedi ymwneud â refferendwm datganoli'r Alban.

Roedd y farn yng Nghymru o blaid ac yn erbyn datganoli mor agos, meddai, nes bod y sefyllfa'n "cyfiawnhau rhywfaint o eich amser", gan annog Mr Blair i gynnal "taith ranbarthol Gorffennaf yno".

Gan gyfeirio at y Sioe Frenhinol, ychwanegodd y swyddog: "Watch out for the Welsh National Show. This is a ghastly cows and National Costume affair."

Disgrifiad o’r llun,

Gwleidyddion oedd o blaid datganoli'n dathlu canlyniad y refferendwm

Ymwelodd Mr Blair â de Cymru yng Ngorffennaf 1997 fel rhan o'r ymgyrch datganoli.

Cafodd y refferendwm ei gynnal ar 18 Medi 1997, ac fe bleidleisiodd etholwyr o drwch blewyn - 50.3% i 49.7% - o blaid sefydlu'r Cynulliad.

Dywedodd Mr Blair yn 2017 ei fod wedi "gwthio datganoli i Gymru" er gwaethaf gwrthwynebiad gan rai o fewn ei blaid ei hun.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Syr Deian Hopkin fod datganoli dal yn bwnc pwysig heddiw

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Syr Deian Hopkin fod datganoli yn "bwnc allweddol" i Llywodraeth y DU yn 1997 o gymharu â'r dyddiau hyn.

"Erbyn diwedd y cyfnod yma yn '97 oedd y blaid Lafur yn benderfynol o gael datganoli... oedd Tony Blair ei hunan yn benderfynol, ac wedi ceisio perswadio Sean Connery, er enghraifft, i geisio ymgyrchu dros ddatganoli," meddai.

"Achos roedd datganoli erbyn hynny yn bwnc allweddol, athronyddol bwysig i'r llywodraeth.

"Mae hwnna yn wahanol iawn eto i'r hyn sydd yn digwydd y dyddiau yma. Mae yna ddrwgdybiaeth bod y llywodraeth bresennol â llai o awydd dros ddatganoli."

Ychwanegodd: "Mi roedd yr Alban yn bwysig ond rwy'n credu fel nawr... os chi yn darllen y papurau yma yn agos, mae'n bwysig bod nhw yn gweld bod y refferendwm yn ffordd i osgoi annibyniaeth a dwi yn credu dyna ydi'r peth sydd yn dal i fodoli chwarter canrif ar ôl hynny."