'Cymru wedi delio â'r pandemig yn well na Llundain'
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi delio â'r pandemig yn "well o lawer na San Steffan", yn ôl newyddiadurwr sydd wedi treulio degawdau'n craffu ar waith gwleidyddion yng Nghaerdydd a Llundain.
Mae Gareth Hughes, sy'n 79 oed, wedi penderfynu ymddeol ar ôl gweithio fel sylwebydd a gohebydd gwleidyddol yng Nghaerdydd a San Steffan ers 1999.
Roedd o'n ymgyrchydd blaenllaw dros ddatganoli, ac mae'n credu'n gryf y dylai Cymru fod wedi cael mwy o rym o'r dechrau.
"Yn raddol rydan ni wedi ennill mwy o rym, ond dwi'n teimlo y dylsen ni fod wedi cael hynny erioed," meddai Gareth, sy'n dod o Fangor yn wreiddiol ond yn byw yng Nghaerffili ers blynyddoedd.
"Pam na chafodd Cymru yr un grym â'r Alban o'r dechrau?
"Roeddwn i'n ymgyrchydd yn 1997 achos roeddwn i'n benderfynol [bod angen] sefydlu rhyw fath o gynulliad, neu gael dipyn o ddatganoli i Gymru - pam lai - rydan ni ddigon abl i fedru rhedeg pethau drosom ni'n ein hunain.
"Mae'r pandemig wedi dangos hynny. Mae prif weinidog Cymru wedi rheoli'r sefyllfa'n deg, ac mae Cymru wedi delio'n well o lawer efo'r pandemig na San Steffan."
Bu Gareth Hughes yn trafod ei yrfa gyda Catrin Haf Jones ar Dros Ginio yn ddiweddar. Cliciwch yma i wrando eto.
Troi at newyddiadura
Ar ôl gadael Ysgol Friars, Bangor, yn 16 oed bu'n gweithio fel prentis argraffydd gyda phapurau wythnosol Y Cloriannydd a'r North Wales Chronicle, cyn troi'n raddol at newyddiaduraeth.
Ar ôl cyfnod yng Ngholeg Harlech, aeth yn ei flaen i'r London School of Economics, lle graddiodd mewn gwleidyddiaeth ac economeg.
Bu'n gweithio ym maes gwasanaethau cymdeithasol a chymdeithasau tai yn Lloegr am rai blynyddoedd wedyn, cyn dychwelyd i Gymru i sefydlu Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Cymru.
Ond ar ôl sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999, cafodd ei ddenu'n ôl i faes newyddiaduraeth pan gafodd gynnig swydd yn uned wleidyddol newydd ITV Cymru.
"Roeddwn i'n treulio bob yn ail wythnos yng Nghaerdydd, yn y Cynulliad fel roedd o bryd hynny, ac yn Llundain yn San Steffan," meddai.
Roedd sefydlu'r Cynulliad yn gyfnod hynod ddiddorol i fod yn newyddiadurwr, meddai.
"Roedd gennych chi gymysgedd o bobl brofiadol iawn yn dod yno o San Steffan - cewri fel Dafydd Wigley, Ron Davies, Dafydd Elis-Thomas, Rhodri Morgan, Cynog Dafis, Ieuan Wyn Jones ac yn y blaen.
"Ac roedd gennych chi rai heb lawer o brofiad ond lot o egni, oedd yn dod o gefndir llywodraeth leol efallai, ac roedd yn ddiddorol eu gweld nhw ac yn ddiddorol gweld y sefydliad newydd yn cychwyn."
Mae'n dweud nad yw'r gwaith a wnaeth Dafydd Elis-Thomas fel Llywydd cynta'r Cynulliad wedi cael digon o gydnabyddiaeth.
"Dwi ddim yn meddwl ein bod yn rhoi digon o glod iddo achos mi wnaeth o yfflwn o job dda yn sefydlu y Cynulliad yna."
Papur newydd cenedlaethol
Mae'n credu y byddai Cymru wedi bod ar ei hennill o gael papur newydd cenedlaethol.
"Rydan ni wedi bod ar ein colled yng Nghymru erioed i beidio cael papur dyddiol, cenedlaethol yn Gymraeg ac yn Saesneg," meddai.
Ond mae'n ychwanegu ei bod hi'n "rhy hwyr" am hynny bellach, wrth i fwy o bobl droi at y we i gael eu newyddion.
Ar ôl ei gyfnod gydag ITV, trodd Gareth yn newyddiadurwr llawrydd, gan ganolbwyntio ar waith y Senedd.
Roedd y cyfnod yn dilyn etholiadau'r Cynulliad yn 2007 yn un o'r rhai mwyaf diddorol y mae Gareth yn eu cofio.
Roedd y Blaid Lafur wedi ennill 26 sedd, ond doedd hynny ddim yn ddigon i gael mwyafrif er mwyn llywodraethu.
Bu trafodaethau i greu clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol, ond ni ddaethpwyd i gytundeb.
Yna bu trafodaethau i greu 'Clymblaid yr Enfys' rhwng Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol, ond cafodd y syniad ei wrthod gan y blaid honno.
"Roedd 'na lot o fynd a dod, a tan y funud olaf doedd neb yn siŵr be' oedd yn digwydd, ond daeth pwysau ar Ieuan Wyn Jones gan asgell chwith ei blaid i ffurfio clymblaid efo Llafur," meddai Gareth.
Ar ôl ceisio symud ymlaen gyda llywodraeth leiafrifol am fis, penderfynodd arweinydd y Blaid Lafur, Rhodri Morgan ac arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, ffurfio clymblaid, a chafodd llywodraeth Cymru'n Un ei greu.
"Ond pe bai Clymblaid yr Enfys wedi digwydd mi fasa'n gwleidyddiaeth ni wedi bod yn wahanol iawn, ac mi fasa'r Blaid Lafur wedi gorfod ailfeddwl eu strategaeth.
"Mi fyddai wedi bod yn iach i'n gwleidyddiaeth ni, ond ddaru o ddim digwydd."
Ystyried gyrfa fel gwleidydd?
Gyda'i gefndir a'i radd mewn gwleidyddiaeth ac economeg, oedd o erioed wedi ystyried mynd yn wleidydd ei hun?
"Do, efallai, pan oeddwn i'n ifanc, ond mae'n well gen i edrych arnyn nhw ac ar eu gwaith," meddai.
"Mae gwleidyddion yn bobl reit od, ac mi allai ddweud hyn rŵan - mae gan lot ohonyn nhw egos mawr a gallu bychan yn aml iawn."
Wrth i'r gwaith ddod i ben, mae Gareth nawr yn dweud ei fod yn edrych ymlaen i dreulio'i ymddeoliad yn ymlacio, a phaentio lluniau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd23 Mai 2021
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2021