Llywydd: 'Rhaid cael mwy o Aelodau' yn Senedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid cynyddu nifer yr aelodau yn chweched tymor Senedd Cymru, yn ôl Llywydd y Senedd.
Dywedodd Elin Jones wrth BBC Radio Cymru bod tystiolaeth annibynnol yn dangos bod dim digon o aelodau i gynnal llwyth gwaith sydd wedi cynyddu ers y weinyddiaeth ddatganoledig gyntaf yn 1999.
Daeth sylwadau AS Plaid Cymru Ceredigion ddyddiau wedi i'r Prif Weinidog Llafur, Mark Drakeford awgrymu ei fod yn rhannu'r "brwdfrydedd ymhlith nifer cynyddol o aelodau" dros ehangu maint y Senedd.
"Mae nifer yr aelodau sydd gynnon ni yn annigonol," meddai wrth gael ei holi gan Bethan Rhys Roberts fore Sul.
"Gyda phwysau trethu a deddfu mae'n Senedd wahanol iawn i 1999 - y pwerau yn fwy, y gwaith yn fwy ac mae mwy o waith angen dal llywodraeth i gyfri am yr holl gyfrifoldebau.
"Mae tystiolaeth annibynnol, rhyngwladol yn dangos ein bod ni fel Senedd yn rhy fach o ran nifer i gynnal y gwaith. Rhaid i'r Senedd dyfu yn ddigon o faint i wasanaethu pobl Cymru.
"Doedd dim digon o amser na digon o ewyllys gwleidyddol i wneud hynny erbyn yr etholiad diwethaf.
"Fydden i'n dweud bod angen rhwng 80 a 90 o aelodau - dyna beth sy'n gweithio ac yn deg i wlad o'n maint ni. Mae colli Aelodau Seneddol Ewropeaidd ac o bosib colli rhai ASau wrth i'r nifer ostwng yn golygu y bydd yna safiad i'r pwrs cyhoeddus."
'Lleisiau dinistriol'
Yn 2016, fe gipiodd UKIP saith sedd ym Mae Caerdydd yn etholiad y Cynulliad fel ag yr oedd, wythnosau'n unig cyn refferendwm Brexit.
Dywedodd Elin Jones bod y tymor diwethaf wedi bod "yn wleidyddol dymhestlog gyda phynciau mawr fel Brexit yn cael ei drafod ar ddechrau'r tymor ac yna o ran yr unigolion a gafodd eu hethol, gyda rhai yn galw am ddiddymu'r Senedd.
"Fe welson ni lot o leisiau dinistriol nad oedd yn parchu bod gan bobl farn gwahanol."
Chafodd yr un ymgeisydd ei ethol wedi pleidlais mis Mai i gynrychioli plaid sy'n galw am ddiddymu'r Senedd.
Gan gyfeirio at ganlyniadau Plaid Cymru yn yr etholiad dywedodd Ms Jones bod nifer o gwestiynau angen eu gofyn, a bod Dafydd Trystan wedi ei benodi i roi arweinyddiaeth i'r blaid.
Roedd yna gwynion gan rai wedi'r etholiad bod yna ddiffygion trefnu o fewn y blaid.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2017