Dyn yn pledio'n euog i ddynladdiad yng Nghaergybi

  • Cyhoeddwyd
David JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Jones yn cael ei adnabod yn lleol fel DJ

Mae dyn 48 oed o Gaergybi wedi cyfaddef bod yn gyfrifol am farwolaeth dyn lleol arall yn y dref y llynedd.

Bu farw David John Jones, 58, mewn ysbyty yn Stoke ar ôl cael anafiadau difrifol i'w ben yn dilyn ymosodiad yn ardal Stryd Thomas ar 17 Tachwedd.

Plediodd Gareth Wyn Jones yn euog i ddynladdiad yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 27 Gorffennaf.

Cafodd cyhuddiadau yn erbyn ail ddyn o Gaergybi, Stuart Larkin sy'n 38 oed, eu gollwng yn niffyg tystiolaeth i'r llys.

Roedd Mr Jones yn cael ei adnabod yn lleol fel DJ, ac fe gafodd ei ddisgrifio mewn datganiad gan ei deulu wedi ei farwolaeth fel "taid, tad a chymar tra hoff".

Pynciau cysylltiedig