Arestio un wedi marwolaeth dyn yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yn Aberteifi, Ceredigion ddydd Mercher.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod dyn lleol, John Bell wedi marw yn dilyn digwyddiad yn oriau man 21 Gorffennaf.
Cafodd Mr Bell, 37, ei ganfod ar ffordd yn arwain tuag at bont Aberteifi am tua hanner nos.
Mae dyn 22 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
'Colled enfawr'
Cafodd nifer fawr o swyddogion eu galw i'r dref i chwilio sawl man fore Mercher, ac fe gafodd nifer o ffyrdd eu cau.
Dywedodd y llu fod eu hymchwiliad yn canolbwyntio ar Golwg Y Castell a'r ffordd yn arwain tuag at y bont.
Maen nhw wedi apelio am wybodaeth gan y cyhoedd, a dylent gysylltu drwy ffonio 101 neu ar-lein.
Mewn datganiad dywedodd ei deulu fod y golled yn "dorcalonnus".
"Roedd yn fab, brawd, tad ac ewythr cariadus a ffyddlon a bydd colled enfawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ei garu."