Anabledd yn arwain at yrfa o helpu eraill yn stadiwm Liberty

  • Cyhoeddwyd
Mark Phillips yn stadiwm LibertyFfynhonnell y llun, Mark Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Mark Phillips yw swyddog mynediad anabl cyntaf Clwb Pêl-droed Abertawe

Mae Mark Phillips yn cofio'r diwrnod y dywedodd ei dad wrtho fod ganddo ddau ddewis mewn bywyd - naill ai eistedd i lawr a bod yn drist neu weithio'n galed a phrofi pawb yn anghywir.

"Es i am option two a sa'i erioed wedi edrych nôl," meddai Mark a gafodd ei eni 11 wythnos yn gynnar gyda Pharlys yr Ymennydd.

Cafodd Mark ei benodi yn swyddog mynediad anabl cyntaf Clwb Pêl-droed Abertawe pan oedd yn 28 mlwydd oed.

Eglurodd sut mae ei agwedd bositif tuag at fywyd ac at ei anabledd ei hun wedi arwain at yrfa o helpu pobl eraill sydd ag anabledd wrth sgwrsio gyda Hanna Hopwood ar raglen Radio Cymru, Gwneud Bywyd yn Haws.

Rhiw Penglais mewn cadair olwyn

Wedi ei fagu yng Nghaerfyrddin aeth Mark i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Pan roedd yno, roedd yn mynd o gwmpas mewn cadair olwyn; gyda champws Prifysgol Aberystwyth ar ben rhiw serth Penglais, doedd hynny ddim yn ddelfrydol.

"Mae Penglais yn ddiddorol i drafaelio i mewn i lectures! Fi wedi cael cwpl o sefyllfaoedd lle fi'n styc tu fas i lectures neu'n styc ar yr hewl achos oedd teiar wedi dod bant o'r olwyn! Oedd e definitely yn learning curve!"

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Cefnogwyr Anabl CPD Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mark gydag aelodau Cymdeithas Cefnogwyr Anabl Abertawe

Fe roddodd Mark adborth i awdurdodau'r brifysgol am y ddarpariaeth i bobl anabl a beth allen nhw ei wneud i'w wella.

"Fi wastad ti bod fel'na, wastad yn fodlon siarad am beth sy'n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio i bobl. Chi ffili cau fi lan, 'na beth yw'r broblem!"

Yn y brifysgol y sylweddolodd ei fod eisiau defnyddio ei arbenigedd a'i brofiadau ei hun o ymdopi gyda bywyd i helpu eraill ac roedd yn gweithio fel ymgynghorydd byw yn annibynnol cyn y swydd gyda'r Elyrch.

Helpu cefnogwyr ag awtistiaeth

Un o'r datblygiadau mae fwyaf balch ohonyn nhw ers iddo ddod i glwb Abertawe gyntaf ydy'r ystafell synhwyrau, dolen allanol sydd wedi ei greu yn y stadiwm yn arbennig i bobl sydd â chyflyrau fel awtistiaeth fedru dod i fwynhau gêm gyda'u teulu.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Cefnogwyr Anabl CPD Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ystafell synhwyrau yn galluogi teuluoedd sydd ag aelod o'r teulu ag awtistiaeth i ddod i fwynhau gwylio gêm gyda'i gilydd

"Y syniad yw cael lle yn y stadiwm lle mae pobl yn gallu gweld y gêm fel teulu... a mynd nôl mewn i'r sensory room os yw'r sŵn yn ormod," eglura Mark.

Mae'n golygu bod yr unigolion ag awtistiaeth yn gallu cael y profiad o ddod i wylio gêm mewn awyrgylch sy'n teimlo'n ddiogel, ond mae'n werth y byd i'r teulu hefyd - mae'r wên mae wedi ei gweld ar eu hwynebau ar ôl iddyn nhw allu mwynhau gwylio gêm gyda'i gilydd yn dweud y cyfan meddai Mark.

Agwedd rhieni

Wedi ei eni'n gynnar, yn pwyso dau bwys a naw owns, mae Mark yn talu teyrnged i'w rieni am y ffordd maen nhw wedi ei fagu.

"Maen nhw wedi bod yn rhywbeth enfawr i fi fel person, maen nhw byth wedi trin fi'n wahanol, fi wastad wedi bod mewn ysgolion mainstream a fi byth wedi cwato fy anabledd i o gwbl; mae'n rhieni fi yn gyfrifol am hwnna.

"O'n nhw byth yn cwato fi nôl, yr old school mentality o 'disability should be not seen and not heard' - mae hwnna wedi newid lot yn y blynyddoedd diwetha'.

Clwb Pêl-droed Abertawe
...dwi wastad yn dweud bob dydd ti'n codi lan a mae rhaid iti weithio yn galetach na pawb arall.
Mark Phillips

"Oedd e yn galed fel plentyn achos ti'n gweld plant eraill yn gwneud pethau yn rhwydd ac i fi, doedd e ddim wastad yn hawdd; dwi wastad yn dweud bob dydd ti'n codi lan a mae rhaid iti weithio yn galetach na pawb arall.

"Fi'n cofio Dad yn eistedd fi lawr pan o'n i yn yr ysgol gynradd, oedd Mam yn ypset achos o'n i yn ypset, oedd pethau yn galed, oedd rhaid i fi gael ffisiotherapi wastad a stwff fel'na."

A dyna pryd y dywedodd ei Dad wrtho fod y gall ddewis fod yn ddigalon neu weithio'n galed.

"Fi wastad yn cofio hwnna pan fi'n gwneud unrhyw beth achos mae pobl wastad yn mynd i gael preconceived idea o beth yw anabledd a fel dylen nhw fihafio rownd ti," meddai.

Ffynhonnell y llun, Level Playing Field
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark yn cynrychioli'r clwb ar banel fforwm cenedlaethol Level Playing Field

Mae'n teimlo bod lot mwy o bobl yn trafod anabledd heddiw, sy'n hollbwysig, ac mae'n barod iawn i ateb cwestiynau: ei arf ar gyfer y rhan fwyaf o sefyllfaoedd ydi hiwmor.

Mae'n ei ddefnyddio wrth groesawu cwestiynau a chwilfrydedd naturiol plant, hyd yn oed os yw rhai rhieni yn dweud wrthyn nhw i beidio edrych.

"Mae plant, yn gyffredinol... mo'yn holi, maen nhw mo'yn gwybod pethau. Fi wastad yn dweud y jôc 'I'm the closest thing to a transforner some of these kids will ever see!'

"Fi wastad mo'yn iddyn nhw ddod a gofyn cwestiynau neu gofyn be' sy'n wahanol, pam mae pethau'n wahanol?"

Weithiau mae pobl yn teimlo bod ganddyn nhw'r hawl i ofyn cwestiynau sy'n rhy bersonol, meddai Mark, fel cwestiynau yn ymwneud â rhyw.

Ac eto, fe wnaiff ateb yn aml iawn, weithiau gyda hiwmor, weithiau yn ddifrifol, er mwyn "gwneud y pwynt bod pobl anabl yn cael yr un problemau â phobl eraill ac yn cael yr un cyfleoedd - maen nhw jyst yn dod yn wahanol."

Hefyd o ddiddordeb: