Aelodaeth y Ffermwyr Ifanc 'wedi haneru' dros y pandemig

  • Cyhoeddwyd
merched CFfI

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru weld gweld eu haelodaeth yn haneru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd y pandemig.

Mewn blwyddyn arferol fe fyddai gan y mudiad ychydig dros 4,000 o aelodau, ond eleni fe gwympodd hynny i ychydig dros 2,000.

Mae cadeirydd CFfI Cymru wedi cydnabod ei bod hi wedi bod yn flwyddyn anodd wrth i'r mudiad wynebu heriau'r pandemig a gorfod ceisio cynnal digwyddiadau'n rhithiol.

Ond yn ôl Katie Davies mae disgwyl i'r rhan fwyaf o aelodau ddychwelyd wrth i gyfyngiadau lacio, a mwy o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb gael eu cynnal eto.

'Fi'n joio'r cymdeithasu'

Fel arfer fe fyddai'r Sioe Frenhinol yn cael ei chynnal yn Llanelwedd yr wythnos hon - pinacl y calendr cystadlu i'r rhan fwyaf o aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Ond eleni eto does dim cystadlu ar faes y sioe wrth i Covid-19 roi stop ar weithgareddau'r mudiad, fel y mae wedi dros yr 16 mis diwethaf.

Mae'r cwymp mewn aelodaeth o ganlyniad i hynny yn siomedig, yn ôl y cadeirydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Katie Davies yn dweud ei bod hi'n "bositif" am ddyfodol y mudiad wedi blwyddyn anodd

"Mae 'neud popeth dros Zoom a ddim wyneb yn wyneb mor galed i'r aelodau, ddim gweld pobl ifanc eraill," meddai Katie Davies.

"Ond mae ddim really yn sioc fawr achos mae'n flwyddyn mor wahanol ac mae pawb ddim mo'yn popeth dros Zoom."

Un o'r rhai wnaeth ddim ail-ymaelodi eleni oedd Chloe Jones, sydd fel arfer yn aelod ym Mhont-Siân yng Ngheredigion.

Mae hi'n gweithio yng Nghaerdydd ac fel arfer yn teithio yn ôl i gystadlu, ond fe wnaeth Covid wneud iddi ailystyried.

"Blwyddyn 'ma o'n i dal yn bwriadu ymaelodi achos dwi eisiau cefnogi'r clwb ac eisiau bod yn rhan o'r cystadlaethau," meddai.

"Ond daeth Covid, do'n i'm yn mynd i gael yr un profiadau â fel arfer, ac i fi mae bod yn rhan o'r cystadlaethau a chwrdd yn wythnosol, dyna beth yw YFC a dyna beth dwi'n mwynhau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Chloe Jones (chwith) yn bwriadu ail-ymaelodi unwaith bydd gweithgareddau'n ailddechrau'n iawn

Fel sawl sefydliad a mudiad arall, troi i'r byd rhithiol wnaeth y ffermwyr ifanc er mwyn cynnal nifer o'u gweithgareddau a'i cystadlaethau.

Ac er nad oedd hwnnw yn ymarferol ar gyfer pob digwyddiad - na chwaith at ddant pawb - mae wedi cynnig cyfleoedd i rai fel Sioned Fflur Evans, sy'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwennog ond wedi bod yn byw yn Birmingham a Bryste yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Cystadlaethau llynedd fel siarad cyhoeddus, ges i gynnig bod yn rhan ohono fe, ond gan bo' fi'n byw yn Birmingham nes i dynnu allan o'r gystadleuaeth achos yn amlwg bydden i ddim wedi teithio adre ar gyfer yr ymarferion ac wedyn y gystadleuaeth," meddai.

"Felly eleni pan ddaeth y gystadleuaeth ar-lein a dros Zoom 'naeth pethau lot yn haws i fi gystadlu yn amlwg... lle falle llynedd, bydde fe ddim wedi bod mor hawdd i fi gystadlu."

Disgrifiad o’r llun,

I Sioned Fflur mae cystadlu'n rhithiol wedi gwneud pethau'n haws iddi

Dros y misoedd nesaf bydd CFfI Cymru'n wynebu heriau amlwg gan gynnwys cynyddu'r aelodaeth a denu'r rhai sydd wedi gadael yn ôl - am resymau cymdeithasol yn ogystal ag ariannol.

Llynedd daeth i'r amlwg fod y mudiad yn wynebu colledion posib o £140,000 o ganlyniad i effeithiau'r pandemig, ond mae Katie Davies yn ffyddiog y bydd nifer o aelodau'n dychwelyd wedi blwyddyn o saib.

"Ni mor bositif am ddyfodol y mudiad nawr achos ma' siroedd yn cwrdd ac mae clybiau yn cwrdd wyneb yn wyneb, ac mae hwn yn gweld mwy o'r aelodaeth yn dod 'nôl," meddai.

"Os ma' restrictions yn ymlacio 'to gobeithio ym mis Awst, ma' mwy o aelodau yn dod 'nôl ym mis Medi pan fydd blwyddyn newydd y mudiad yn dechrau."

Pynciau cysylltiedig