Pryder cyflenwad dŵr wrth i bibellau fyrstio naw gwaith

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"'Da ni'm yn gwybod o un diwrnod i'r llall a fydd gennym ni ddŵr"

Mae yna boeni am brinder dŵr cyson mewn pentref yn Sir Ddinbych ar ôl i brif bibellau'r ardal fyrstio naw gwaith ers mis Ebrill.

Yn ôl Dŵr Cymru maen nhw'n trio datrys y problemau yng Ngwyddelwern, ond mae hi'n broses gymhleth.

System ddŵr gymhleth sy'n yr ardal yn ôl y cwmni, ac maen nhw wedi ceisio gwella'r cyflenwad ac yn parhau i chwilio am atebion.

Dywedodd Siân Parry o Gyngor Cymuned Gwyddelwern bod trigolion "wedi cael llond bol".

"'Da ni ddim yn gwybod o un diwrnod i'r llall fydd gennym ni ddŵr," meddai.

"Mae'n anodd i bobl sydd isio mynd i'w gwaith, rhai yn gorfod gwneud heb gawod yn y bore, felly mae o yn achosi problem rŵan."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Donna Roberts bod y sefyllfa yn "gwneud i chi deimlo ar bigau'r drain o hyd"

Mae yna fusnesau gwyliau lleol yn poeni, a theuluoedd hefyd.

"Mae'n gwneud rhywun deimlo'n reit anxious a dweud y gwir, achos mae gen i wyrion yn byw drws nesa'," meddai Donna Roberts, sy'n byw yn y pentref.

"Mae o'n effeithio ar rheiny oherwydd weithia' 'da ni'n codi a does 'na ddim dŵr o gwbl trwy'r dydd.

"Yn amlwg efo plant maen nhw isio dŵr i'w yfed, licio chwarae yn y dŵr a ballu, ac os ydyn nhw'n mynd i'r ysgol maen nhw isio 'molchi yn y bore.

"Mae o'n gwneud i chi deimlo ar bigau'r drain o hyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Beryl Roberts yn dweud bod y sefyllfa yn "boenus i bawb" yng Ngwyddelwern

Mae'r dŵr yn llifo'n iawn ar hyn o bryd, ond does 'na'm dal - a dyna'r broblem.

"'Da chi'n deffro'n bore a'r peth cynta' 'da chi'n ei 'neud ydy mynd i'r bathroom - tynnu'r chaen, dim dŵr. 'Molchi, dim dŵr oer," meddai Beryl Roberts o'r pentref.

"Be' dwi'n ofni fwyaf efo dŵr oer y tap ydy, mae gen i ofn unwaith 'mod i wedi'i droi o 'mlaen 'mod i'n anghofio ei gau o 'nôl.

"Wedyn 'sa 'na lanast yma - mae wedi digwydd unwaith.

"Mae'n boenus i bawb - a'r hiraf does gennych chi ddim dŵr, y mwya' isio paned yda chi!"

Disgrifiad o’r llun,

"Allwn ni ddim cario 'mlaen fel hyn," meddai Siân Parry o'r cyngor cymuned

Mae Dŵr Cymru yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra, ond i rai o bobl y pentref dydy hynny ddim yn ddigon.

Maen nhw eisiau gwybod sut maen nhw am fynd i'r afael â'r broblem unwaith ac am byth.

'Diffyg cyfathrebu'

"Mae 'na ambell dro lle 'da ni'n clywed dim byd ganddyn nhw am oriau," meddai Siân Parry.

"Mae'r diffyg cyfathrebu rhwng Dŵr Cymru a'r cwsmeriaid yn wael fan hyn.

"'Da ni isio i rywun yrru llythyr neu ebost i bawb yn y pentre' i ni gael gwybod yn union be' sy'n mynd 'mlaen - be' ydy'r plan ar gyfer y dyfodol - achos allwn ni ddim cario 'mlaen fel hyn."

Mae Dŵr Cymru yn ymddiheuro os ydy'r cyfathrebu wedi bod yn aneglur, a dywedodd yn y dyfodol y bydd y wybodaeth ddiweddaraf am eu cynllunia yn cael eu rhannu â'u cwsmeriaid.

Pynciau cysylltiedig