Covid-19: Cerddoriaeth yw fy mywyd... a diflannodd popeth dros nos

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gordon MorisonFfynhonnell y llun, Tim Finch Photography

Un diwydiant sydd wedi dioddef yn ofnadwy dros y 15 mis diwethaf, ers i gyfyngiadau Covid gael eu rhoi mewn lle gyntaf ym Mhrydain, yw'r celfyddydau.

Mae Gordon Morison, o Ystrad Mynach, Caerffili, yn gwybod hyn yn well na neb. Mae ei holl fywyd proffesiynol wedi bod yn ymwneud â'r diwydiant cerddoriaeth ers degawdau, ond daeth hyn yn anodd iawn iddo yn sydyn fis Mawrth 2020.

"Dwi 'di bod yn y diwydiant cerddoriaeth ers mod i'n 18. Dwi'n 42 nawr. Dyna ydi'r cwbl dwi wedi ei 'nabod; bod mewn band a bod o gwmpas bandiau."

Yn 18 oed, cyd-sefydlodd fand metel trwm - Raging Speedhorn - gyda ffrindiau yn ei dref enedigol, Corby yn Swydd Northampton.

Mae'r band yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac yn ogystal mae gan Gordon ei fusnes ei hun yn rhentu faniau i fandiau fynd i gigs ac ar deithiau. Felly roedd bywyd, a'i fusnes, yn brysur iawn, meddai.

"Mae'r faniau yn addas ar gyfer bandiau - teledu, lle i storio eu hoffer - ac weithiau maen nhw eisiau benthyg offer hefyd. Dwi'n mynd mas i tour managio weithiau hefyd, a gwneud yn siŵr fod y gwestai wedi eu bwcio ayyb. Gwarchod, basically!

"Roedd gen i bedair fan, ac roedden nhw mas yn gyson, 12 mis y flwyddyn. Weithiau roedd pob un mas am fis."

Ffynhonnell y llun, Tim Finch
Disgrifiad o’r llun,

Gordon (trydydd o'r chwith) a Raging Speedhorn a chynulleidfa o filoedd

"Wedyn, gyda'r band, o'n i'n mynd ar daith am falle tair wythnos ar y tro, rhyw bedair i bum gwaith y flwyddyn. Ac wedyn roedd gwyliau hefyd i'w gwneud, o Ebrill tan tua Tachwedd.

"Roedd fy holl fywyd yn ymwneud â'r diwydiant cerddoriaeth. Roedd pethau wastad ymlaen."

'Naeth popeth syrthio yn ddarnau'

Ond wrth gwrs, daeth tro ar fyd pan ddaeth cyfyngiadau Covid i rym fis Mawrth y llynedd, a chanslwyd pob sioe, gŵyl a gig.

"O'dd y faniau yn booked yn llwyr tan tua Tachwedd, ac roedd y band yn paratoi at ryddhau record ganol y flwyddyn, felly roedd pethau am ddechrau dod yn brysur eto," eglurodd Gordon.

"Ond pan ddaeth Mawrth, 'naeth popeth syrthio'n ddarnau. Es i o fod yn hollol brysur i gael dim byd.

"Roedd pawb ofn. Doedd neb wir yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen, ac o'dd bandiau jest yn canslo. O'dd 'na ambell i fand oedd wedi dal 'mlaen am 'chydig o fisoedd, ond wedyn sylweddoli fod pethau ddim am ddigwydd."

Wrth i gigs gael eu canslo, a'r galw am faniau ddiflannu, roedd hi'n anodd i Gordon a'i deulu gadw'u pennau uwchben y dŵr, ac arian yn brin.

"Roedd pobl yn gofyn am eu deposits yn ôl - roedd llawer o'r arian oedd gen i yn y banc yn deposits ar gyfer y faniau, felly roedd hi bach o hunlle'. Dwi'n gwybod beth roedd y bandiau yn gorfod mynd drwyddo, ond o'dd rhaid i mi gadw peth o'r deposits er mwyn cadw'r busnes i fynd."

Gordon Morison
Mae'n dorcalonnus, achos maen nhw wedi gweithio mor galed am mor hir i fod yn y diwydiant yma."

Yn ffodus i Gordon a'i fand, llwyddon nhw i ryddhau eu halbym, a gwneud peth o'u gwaith hyrwyddo a gigio dros y we, ond gyda'r arian yn cael ei wneud fel arfer drwy fynd i ffwrdd ar deithiau, roedd llawer llai o arian yn dod i mewn.

Derbyniodd ychydig o arian grant gan y llywodraeth oherwydd ei fod yn hunan-gyflogedig, ond doedd ddim hanner digon, meddai. Beth oedd yn gwneud pethau yn anoddach oedd bod ei wraig, Katy, hefyd yn gweithio'n llawrydd ym myd y celfyddydau, ac mewn sefyllfa debyg.

Ond roedd Gordon yn ceisio edrych ar ochr bositif pethau, bob amser.

"Mae'n anodd bod yn drist," meddai, "achos roedd llawer o'n ffrindiau i yn yr un cwch, yn y celfyddydau. Felly roedd hi'n anodd teimlo'n sori drosto fi fy hun, pan oedd 'na bobl mewn gwaeth sefyllfa na fi.

"Mae'n dorcalonnus, achos maen nhw wedi gweithio mor galed am mor hir i fod yn y diwydiant yma."

Dyfodol ansicr i'r diwydiant

Bellach, â chyfyngiadau wedi dechrau llacio, mae pethau yn araf ddod at ei hunain. Ond mae Gordon yn rhagweld fod y diwydiant am gymryd amser hir i ddod nôl i normal ar ôl y pandemig.

"Dwi'n meddwl fod hyn am effeithio arnon ni yn y diwydiant am flynyddoedd. Mae pobl yn anghofio am y feniws grass-roots 'na, lle mae bandiau ifanc yn dechrau mas. Dydyn nhw ddim wedi cael llawer o help y llywodraeth o gwbl, na'r celfyddydau i gyd rili.

"Dwi ddim yn gwybod sut, ond mae'r llywodraeth angen rhoi arian mewn i'r diwydiant a'r feniws bach 'ma.

"Dwi wir ddim yn gwybod beth sydd am ddigwydd. Mae lot o fusnesau wedi gorfod rhoi'r gorau iddi. Bydd hi'n amser hir tan fydd pethau nôl yn agos i fel oedden nhw."

Ffynhonnell y llun, Gordon Morison
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Gordon fflyd o faniau yn wreiddiol, ond mae wedi gorfod gwerthu tair er mwyn i'r busnes oroesi

Ond fel y pwysleisiodd Gordon, pobl benderfynol yw pobl y celfyddydau...

"Mae pawb wedi dod at ei gilydd, does yna ddim hierarchaeth. Dyna beth da sydd wedi dod o hyn.

"Dwi'n meddwl fod pobl mor benderfynol o gael pethau i ddigwydd, dwi'n meddwl mai dyna pam 'neith pethau lwyddo a dod yn gryfach; mae pobl eisiau a'i angen e. Ond mae am gymryd hir i wella."

Gobeithion ar gyfer 2021

Yr haf yma, mae yna sioeau a gwyliau cerddoriaeth wedi eu trefnu, er ei bod hi dal yn gyfnod ansicr iawn, meddai Gordon.

Yn ffodus mae wedi llwyddo i gadw ei fusnes i fynd, ar ôl gorfod aberthu tair o'i bedair fan er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd, ac mae bandiau yn dechrau gofyn am ei wasanaeth eto.

"Mae gen i 'chydig o bookings ar gyfer yr haf nawr, ond dim byd o'i gymharu ag arfer. Mae angen bod yn ofalus o fwcio teithiau a sioeau, achos ti jest ddim yn gwybod beth sydd am ddigwydd nesa'.

"Dwi'n cael bandiau yn cysylltu gyda fi ychydig ddyddiau cyn gig nawr; dydyn nhw ddim eisiau talu deposits achos dy'n nhw ddim yn siŵr os fydd y sioe yn cael ei ganslo. Mae jest mor ansicr.

"Mae'n teimlo fel gallwn ni fynd mewn i locdown unrhyw bryd, yn enwedig gan fod pobl yn Lloegr ddim yn gorfod gwisgo masgiau. Yn bersonol, dwi'n meddwl bod pethau yn mynd rhy gyflym, ond pwy ydw i i ddweud?!"

Ffynhonnell y llun, Mark Latham
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa ddieithr i Gordon yn ddiweddar, ond un mae methu aros amdano eto

Mae Gordon yn croesi popeth nawr y bydd y sioeau sydd wedi eu bwcio yn medru parhau ac na fydd yn colli mwy o fusnes.

Ei gig byw cyntaf gyda'i fand ers dros 15 mis fydd yn Bournemouth ddiwedd Gorffennaf.

"Dwi wedi bod yn dweud wrth y bois, dwi'n meddwl fydda i'n rili emosiynol. Dwi'n 'nabod ambell i fand sydd wedi perfformio mewn gŵyl beilot yn ddiweddar, a roedden nhw gymaint o ofn chwarae eto, achos doedden nhw heb wneud ers cyhyd!

"Ti ddim yn anghofio wrth gwrs, ond ti fel taset ti wedi anghofio sut beth ydi'r profiad. Dwi eitha' nerfus am hynny.

"A bod o amgylch pobl hefyd. 'Dyn ni heb fod rownd llawer o bobl am mor hir, felly fydd e'n od. Ond yr un pryd dwi methu aros!

"Mae hi wedi bod mor rhyfedd, peidio cael gweld bois y band, achos mae'n nhw fel teulu i mi - 'nes i dyfu lan â nhw. Ac mae hi wedi bod yn anodd peidio bod yn greadigol. Dwi'n eitha' emotionally drained...

"Ond dwi'n casáu bod yn negyddol; rhaid bod yn bositif ar ddiwedd y dydd. 'Dyn ni'n lwcus bod ni wedi dod drwyddo fe."

Pynciau cysylltiedig