Dim gigs, gwyliau nac ymarferion: Effaith Covid-19 ar gerddoriaeth

  • Cyhoeddwyd
Cerddorion Cymru

Rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a'r gwyliau di-ri, yr haf ydi'r cyfnod prysuraf i gerddorion Cymraeg. Ond nid eleni.

Cymru Fyw fu'n holi pedwar ffigwr adnabyddus am effaith y cyfyngiadau coronafeirws arnyn nhw a cherddoriaeth Gymraeg.

Lisa Jên

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Lisa Jên a Martin Hoyland yn perfformio'n fyw yn eu cartref

Roedd haf prysur o flaen Lisa Jên, tan i'r clwy' gyrraedd.

Sioe gerddorol Milky Peaks yn Theatr Clwyd, canu gyda Gruff Rhys yng Ngŵyl Greenman, perfformio gyda'i band 9Bach yn Llydaw a Denmarc... Dros nos, canslwyd popeth a dim ond cân yr adar oedd i'w chlywed.

Gyda dau o blant, roedd y sefyllfa yn creu cur pen ychwanegol i Lisa Jên gan fod hi a'i gŵr Martin Hoyland, gitarydd 9Bach, yn rhannol ddibynnol ar gerddoriaeth am eu bara menyn.

Ar ôl pendroni beth i'w wneud nesaf, y penderfyniad oedd chwarae gig yn eu cartref a'i roi yn fyw ar Facebook. Doedd gweddill aelodau'r band yn Llundain a Chaerdydd methu ymuno, ond roedd Liwsi a Betsi - plant Lisa a Martin - ar gael i wneud y gwaith o ffilmio a chyfarwyddo.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiad teuluol o flaen miloedd o wylwyr ar-lein... Lisa a Betsi

"Wnaethon ni lot o ymchwil," meddai Lisa. "Roedd ganddo ni saith dyfais ffilmio - yn iPads, yn ffôns ac ati - wedi benthyg nhw gan y teulu a wnaethon ni brynu offer sain a benthyg meic newydd.

"Wnaeth o gymryd bythefnos i sortio fo i gyd a gwneud lot o tests, a dechrau tudalen Facebook newydd oedd yn gaeedig i ffrydio - fel bod ni'n gallu gwylio yn ôl. Trio cael rhywbeth o ansawdd yn hytrach na rhywbeth off the cuff."

Doedd y cerddor a'r actores ddim yn siŵr am y syniad, ond penderfynodd fwrw ymlaen gan feddwl mai dim ond llond llaw o deulu a ffrindiau fyddai'n gwylio. Fe wnaeth cannoedd ymuno efo nhw'n fyw, a llawer mwy wedyn yn edrych ar recordiadau'r cyngherddau wythnosol.

"Wnaethon ni un bob wythnos am chwe wythnos. Gafon ni ddegau o filoedd yn gwylio, i fyny at 70,000 yn gwylio un fideo, efo bobl ar draws y byd - Taiwan, Minnesota, bob man. Roedd o'n amazing.

"Ro'n i'n reit teimlo'n fewnblyg oherwydd y cyfnod, ond roedd gweld sylwadau fel 'dyma highlight fy wythnos', neu 'ro'n i'n crio wrth wrando ar y caneuon ac roedd gen i hiraeth' yn gwneud i mi feddwl roedd rhaid pwsho dy hun yn greadigol."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd degau o filoedd wedi gwylio cyngherddau 9Bach

A dyna un peth da sydd wedi dod o'r cyfan meddai hi - gwthio ffiniau a dysgu am bethau newydd heb y pwysau i arbrofi mewn gig byw o flaen môr o wynebau.

"Roedd gen i offer yn y stiwdio ond heb rili deall o, ond mae hyn wedi gwneud i fi ddefnyddio'r offer," meddai.

"Roeddan ni wedi bwriadu gwneud mwy o electroneg, felly mae hwn yn pwsho ni i wneud hynny."

Ond mae'r dyfodol yn ansicr a'r cyngherddau hyd yma wedi bod yn rhad ac am ddim.

"Am ba hyd ydan ni'n gallu gwneud hyn am ddim dwi ddim yn gwybod. Ond dwi'n teimlo'n anghyfforddus yn meddwl am ofyn i bobl dalu."

Yws Gwynedd

Ffynhonnell y llun, BBC

"Mae'n rili grêt i fiwsig electroneg Cymraeg, felly 'da ni'n lwcus yn hynny - tydi o i gyd ddim yn doom and gloom."

Fel ei gerddoriaeth, mae Yws Gwynedd yn ceisio bod yn llais positif mewn cyfnod heriol.

"Does dim digon o tiwns pop yn y Gymraeg, 'da ni'n tueddu i gael mwy o bands gitars - dyna'r norm yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi'r amser i bobl i ffeindio'u cyfrifiaduron, dysgu be' i wneud a'u defnyddio nhw."

Mae Yws Gwynedd ei hun wedi ceisio addasu i'r cyfnod, gan gyfansoddi a recordio'r gân Deryn Du dros y we gyda'i fand - ond mae'n ddigon realistig i wybod nad pawb sydd mor ffodus ag o.

Ffynhonnell y llun, Yws Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Ifan Sion Davies, Ywain Gwynedd, Rich Roberts ac Emyr Prys Davies - band Yws Gwynedd

"Mae'n dangos bod o'n bosib i'w wneud os oes gen ti rywun fel Rich Roberts efo chdi - wnaeth o symud ei stiwdio i'r llofft sbâr cyn y lockdown ac roedd o yn union fel bod mewn stiwdio.

"Wnaeth y gân ddod yn rili rhwydd. Doedd ganddo ni ddim plans i ryddhau dim byd - roeddan ni jest yn meddwl wnawn ni drio a gweld be ddaw. Roedd yn arbrawf wnaeth fynd yn ocê.

"Ond mae yna fands sydd methu gwneud hynny, mi fyddai angen iddyn nhw gael offer sy'n gallu bod yn ddrud a ti angen rhywun sy'n fodlon dysgu. Dwi wedi dysgu lot drwy edrych ar YouTube ond mae o'n cymryd un neu ddau mewn band sydd eisiau gwneud o."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Creu dros Zoom - Yws Gwynedd a'r gerddoriaeth ar y cyfrifiadur

Gan fod ei label Recordiau Côsh yn gweithio wythnosau o flaen llaw cyn rhyddhau sengl, dim ond rŵan mae cyfyngiadau'r coronafeirws yn dechrau cael effaith.

Diffyg gigs sy'n ei bryderu fwyaf - gan mai dyna'r ffordd i fandiau hyrwyddo albyms newydd, ac mae'n help i fandiau ifanc ffeindio'u llwybr cerddorol.

A gan na fydd gigs yn debygol o gael eu cynnal am gyfnod mae'n dweud bod yn rhaid cael trefn hirdymor. Mae cwmni hyrwyddo Pyst wedi cynnal cyfarfodydd yn ddiweddar i gael cynllun a'r gobaith ydi creu cynnyrch digidol a gigs rhithiol safonol.

"Ti angen rhywbeth rheolaidd a'u trefnu nhw'n iawn fel bod petha' ddim yn cael eu colli yng nghanol bob dim arall," meddai.

"Dim ots os mae o ar y we a ti'n gallu edrych arno fo wedyn, mae angen rhywbeth ar amser penodol - bob wythnos neu bob mis, beth bynnag - ond mae angen o'n rheolaidd felly bod pobl yn gwybod bod o'n digwydd."

Ceri Cunnington

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

"Diolch i'r nyrsys, a diolch i'r doctors, diolch i'r ffarmwrs sy'n dreifio eu tractors."

Does dim amwysedd yng ngeiriau Ceroma Corona, cân newydd grŵp sydd wedi eu hysbrydoli'n greadigol yn ystod y cyfnod yma.

Ceri Cunnington, o Anweledig gynt, ydi canwr Twmffat ac mae'r aelodau eraill hefyd yn byw yn ardal Blaenau Ffestiniog ac yn wynebau cyfarwydd yn y byd cerddoriaeth Cymraeg - Phil 'Gwibdaith' Jones a Gwyn 'Maffia' Jones.

"'Da ni bob tro wedi sgwennu yn ymateb i bethau," meddai Ceri Cunnington.

"Roedd Phil wedi sgwennu'r darn 'Diolch i'r nyrsys' a ballu, wedyn nesh i neud y gytgan, a wnaethon ni wneud o mewn tua dwy awr. Fel arfer mae'n cymryd dyddiau i fi sgwennu rhywbeth.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ceri Cunnington yn recordio Ceroma Corona

"Ella bod o oherwydd y sefyllfa i gyd. Dwi'n meddwl bod bob miwsig da Cymraeg yn rhywbeth sy'n ymateb i sefyllfa, felly wnaeth o jest dod allan yn sydyn. Ella bod rhywun yn fwy creadigol gan fod rhywbeth yn berwi tu fewn a ti isho cael hwnna allan."

Gweithio yn y gymuned gyda Chwmni Cymunedol Bro Ffestiniog mae Ceri Cunnington, felly tydi o ddim yn ddibynnol ar gerddoriaeth am gyflog. Yn lle pryder ariannol felly, mae'r cyfnod cloi wedi cynnig rhywbeth sydd wedi helpu'r broses o greu cerddoriaeth - amser.

"Mae o wedi bod yn rili da yn hynny o beth, mae o wedi rhoi amser i ni arafu lawr a dod at ein gilydd," meddai.

"Mae ganddo ni stiwdio yn Llanfrothen, ar stâd Bron Danw ers tri mis, ond doeddan ni heb fedru gwneud dim byd - tan rŵan gan fod mwy o amser yn y cyfnod yma."

Dyl Mei

Mae ymateb cerddorion i'r cyfnod cloi wedi amrywio yn ôl Dyl Mei.

Mae o'n rhan o'r tîm sydd tu cefn i Sesiynau'r Tŷ, prosiect sy'n rhoi hwb i'r diwylliant cerddorol drwy gynnig cyfle i artistiaid recordio cynnyrch newydd i Radio Cymru o'u cartrefi.

"Gweld post gan Calan wnaethon ni yn deud eu bod nhw wedi gorfod canslo taith i America," meddai Dyl Mei, sy'n cynhyrchu rhaglenni cerddoriaeth i'r orsaf.

"Maen nhw'n gerddorion proffesiynol ac roedd teimlad yn Radio Cymru oedd yna unrhywbeth allwn ni wneud i gefnogi?"

Erbyn hyn mae sesiynau wedi eu recordio gan artistiaid o bob math, yn cynnwys Carwyn Ellis, Lowri Evans, HMS Morris, Mared a Mellt.

Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Ellis, un o'r artistiaid sydd wedi recordio Sesiynau'r Tŷ

"Dim ots pa fath o fiwsig ydi o - o Welsh Whisperer i Ifan Dafydd, roedda ni'n cynnig sesiynau tair cân - ond does dim pwysau dedlein achos mae digon o straen yn y cyfnod fel mae, dydi o ddim ots am yr offer recordio - ac mae pawb wedi ymateb yn wahanol.

"Wnaeth Gwilym Bowen Rhys recordio ar ddictaffon ac roedd o'n neis cael yr agwedd yna o 'wnâi recordio hwn efo be' sy' gen i'.

"Wnaeth rhai yrru pump cân i ni yn lle tri, roedda nhw eisiau creu. Ond roedd rhai artistiaid wedi gwrthod, doedda nhw ddim yn teimlo eu bod nhw yn y lle iawn i fod yn greadigol neu ddim yn meddwl bod o'n addas."

Pryder Dyl Mei ydi bod rhai artistiaid methu creu yn ystod y cyfnod yma gan nad oes ganddyn nhw'r offer na'r sgiliau technegol i fedru gwneud cerddoriaeth yn eu cartrefi. Ar y llaw arall, mae'n gweld bod eraill wedi elwa yn ystod y cyfnod, yn cynnwys rhai o'r 47,000 o aelodau i'r grŵp Facebook Côr-ona sy'n postio fideos newydd yn ddyddiol.

"Mae hwnna wedi agor y drws i bobl fyddai ddim fel arfer yn gyrru stwff i Radio Cymru ac yn rhoi hyder iddyn nhw," meddai.

"Mae pawb yn wahanol. Does dim set formula - mae rhai wedi ffynnu ond hefyd dwi'n meddwl bod rhai yn cymryd cam yn ôl, ac mae'r ddau beth yn cŵl."

Hefyd o ddiddordeb: