Minffordd: Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio'i dad

  • Cyhoeddwyd
Dafydd ThomasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dafydd Thomas yn ddyn busnes adnabyddus yn ardal Minffordd

Mae dyn o Wynedd sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio ei dad wedi ymddangos yn y llys.

Siaradodd Tony Thomas, 44, â Llys y Goron yr Wyddgrug trwy gyswllt fideo o ysbyty ym Manceinion ddydd Gwener.

Mae'n cael ei gyhuddo o lofruddio Dafydd Thomas, dyn busnes 65 oed, ym Minffordd ger Porthmadog ym mis Mawrth.

Ni wnaeth Tony Thomas, hefyd o Finffordd, bledio'n ystod y gwrandawiad, a gafodd ei ohirio gan y Barnwr Rhys Rowlands.

Mae disgwyl i'r diffynnydd ymddangos nesaf trwy linc fideo yn Llys y Goron Caerdydd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 27 Medi.

Mae disgwyl i'w achos ddechrau ar 15 Tachwedd.

Pynciau cysylltiedig