Seiclwr ifanc yn anelu am yr Olympics

  • Cyhoeddwyd
Huw ar ei feicFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Gyda Geraint Thomas yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020, mae Cymro ifanc â'i fryd ar ei efelychu.

Roedd diddordeb Huw Buck Jones mewn seiclo yn amlwg i unrhywun fyddai wedi ei weld yn chwarae pêl-droed gyda'i fêts pan oedd yn iau: fo fyddai'r un ar feic.

Wrth dyfu fyny yn ardal Caernarfon, roedd o'n hoffi seiclo o gwmpas fel y plant eraill, ond roedd ei ddiddordeb o'n mynd ymhellach.

"Ro'n i bob tro'n reidio beic o gwmpas pan oedd pawb arall yn chwarae ffwtbol," meddai. "A pan o'n i'n chwarae pêl-droed efo ffrindiau, roedd gen i fwy o ddiddordeb pan oedd y bêl yn mynd allan - i fi fedru mynd i nôl o ar y beic!"

Wedi sylwi ar ei ddiddordeb, aeth ei rieni ag o i glwb beicio Dreigiau Coed y Brenin i ddysgu sgiliau ac yn saith oed fe gystadlodd yn ei ras gyntaf.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw wedi cael ei hyfforddi dros y blynyddoedd gan Glwb Dreigiau Coed y Brenin, Clwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy a Chlwb Beicio Dwyfor

Meddai: "Yn y ras gynta', 'nath y pedal ddod off a nesh i ddim gorffen y ras. Do'n i'm yn hapus iawn am hynna.

"O'n i'n licio'r speed dwi'n meddwl, a mod i'n gallu mynd i rywle arall ar y beic."

Dros y blynyddoedd datblygodd ei seiclo ac ers tair blynedd mae'n cynrychioli Cymru mewn beicio ffordd a beicio mynydd. Mae o rŵan wedi cael ei ddewis i gynrychioli Prydain ar ei feic mynydd.

Mae'n golygu oriau o hyfforddi bob wythnos - fel arfer tua 14 awr yr wythnos, sydd tua 230 milltir o seiclo.

"Mae'n dibynnu be' dwi angen gwneud, weithia' dwi'n mynd i fyny Pen-y-Pass neu Nant Gwynant bedair gwaith i fyny ac i lawr i wneud gwaith intensity am tua 40 munud. Well gen i elltydd na mynd ar lôn fflat.

"Wnâ i reidio ar lôn ambell waith yn yr wythnos, wedyn os dwi angen trainio mynydd â i fyny Moel Eilio neu rywbeth."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Huw: 'Dwi'n licio'r rhyddid ti'n gael o fynd ar feic'

Ond mae'r gwaith caled yn dod â'i wobrau.

Tra roedd ei ffrindiau ysgol yn gorffen eu gwersi olaf cyn cau am yr haf, roedd Huw yn rasio yn yr Alpau yn yr Eidal gyda thîm dan 18 Prydain.

"Roedd o'n grêt, ond ro'n i'n lwcus," meddai. "Cwpwl o ddyddiau cyn i ni fynd dyma nhw'n cyhoeddi bod pobl oedd yn cyrraedd yr Eidal o fa'ma yn gorfod isolatio am 10 diwrnod. Fydda hynny'n golygu methu'r ras, ond gan fod ni'n National Sport Team gathon ni exemption."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw yn hoffi darganfod lonydd ac ardaloedd newydd ar ei feic

Un o'r beicwyr mae o'n eu hedmygu fwyaf ydi Mathieu van der Poel o'r Iseldiroedd, sy'n llwyddiannus mewn nifer o wahanol fathau o seiclo.

Ac uchelgais Huw, sy'n rasio gyda Team Backstedt Bike Performance ers mis Mawrth, ydi bod yn feiciwr proffesiynol a chystadlu yn y Gemau Olympaidd. Er bod cyrraedd yr uchelfannau hynny'n anodd iawn, mae'r cynllun ar sut i gyrraedd yn syml.

"Rhaid i fi jest trainio'n galed," meddai. "Os dwi'n cael canlyniadau da, gobeithio wnaiff tîm allan yna sbotio fi ac wedyn wnâ i gario ymlaen efo nhw, gwella efo nhw a chael y results dwi angen."

Hefyd o ddiddordeb: