Y Llewod: Peidiwch disgwyl gwledd o rygbi agored!
- Cyhoeddwyd
Bydd cefnogwyr rygbi Cymru wedi dod i ddeall nad rygbi greddfol, creadigol ffwr' â hi sydd wedi dod i grynhoi athroniaeth Warren Gatland ar hyd y blynyddoedd, ac yn hytrach arddull geidwadol, bragmataidd a chynllun syml sydd yn fwy na heb wedi ennill y dydd.
Mae'r cynllun hwnnw wrth gwrs wedi bod yn hynod lwyddiannus ar hyd y blynyddoedd a does dim disgwyl am eiliad bydd y gŵr o Seland Newydd yn ymbellhau o hynny ar drothwy'r gyfres yn erbyn De Affrica.
Os oedd angen unrhyw linyn mesur o batrwm y gemau sydd i ddod yna'r gêm a gollwyd yn erbyn tîm 'A' De Affrica oedd hynny. Tîm 'A' mewn enw yn unig wrth gwrs a thîm oedd yn frith o sêr rhyngwladol.
Am y 40 munud cyntaf doedd yr ymwelwyr ddim yn gallu ymdopi â'r dwyster, yn ail orau yn y frwydr gorfforol a'r mewnwr Faf de Klerk yn feistrolgar â'i gicio tactegol.
A ddylai chwaraewr Sale wedi bod ar y cae wedi digwyddiad yn yr hanner cyntaf? Wel, mae hynny'n destun trafod ac un y cawn ni drafod yn y man.
Ond mi fydd y Llewod wedi'u calonogi ar sut 'naethon nhw ymateb yn yr ail hanner wrth ddelio â grym nerthol y Springboks yn gymharol ddidrafferth, a'r safleoedd gosod yn gadarn.
Dyna yn y bôn yw hanfod gêm Gatland - safleoedd gosod cry', ennill y frwydr gorfforol, rheoli ardal y dacl, bod ar y droed flaen ac ennill.
Haws dweud na gwneud wrth gwrs ond mae'r tîm hyfforddi'n hyderus bod y seiliau wedi eu gosod.
Dadlau ynglŷn â'r swyddog teledu
Un peth sydd wedi cythruddo tîm hyfforddi'r Llewod yr wythnos hon yw'r ffaith nad swyddog teledu 'niwtral' fydd wrth y llyw.
Dim ond deuddydd yn ôl y daeth i sylw Warren Gatland mai Marius Jonker o Dde Affrica fydd yn cyflawni'r rôl gan nad oedd modd i Brendon Pickerill o Seland Newydd deithio yn sgil cyfyngiadau Covid.
Yn ddealladwy, roedd prif hyfforddwr y Llewod yn gandryll gan ddisgrifio'r sefyllfa fel un gwbl anghredadwy.
Wrth siarad â'r wasg y diwrnod cyn y prawf cyntaf yn Cape Town roedd hyfforddwr y blaenwyr, Robin McBryde yn cytuno fod y sefyllfa yn anffodus.
"Roedd yn annisgwyl i ni, dim ond ddydd Mercher 'naethon ni glywed," meddai. "Mae yna rywfaint o ddiffyg paratoi gan y trefnwyr oherwydd mae 'na reswm pam mae'r rôl yna'n niwtral, ond rhaid i ni fwrw ymlaen ac anghofio am hynny."
Mae'r sefyllfa fwyfwy o dan y chwyddwydr ar ôl i Marius Jonker benderfynu peidio rhoi cerdyn coch i'r dylanwadol Faf de Klerk am dacl beryglus yn ystod y gêm gyda De Affrica A, ac ymateb chwerw ddaeth gan Gatland ar y pryd.
Er hyn ma' Robin McBryde yn ffyddiog na fydd 'na broblemau yn codi ar y penwythnos.
"Ry'n ni eisoes wedi cwrdd â'r dyfarnwr a'r swyddogion," ychwanegodd, "ac maen nhw'n ymwybodol o'r digwyddiad ac yn hyderus rhyngddyn nhw i gyd bydd y penderfyniadau cywir yn cael eu gweithredu.
"Mae rôl y swyddog teledu yn hollbwysig a'r cyfathrebu rhyngddo a'r dyfarnwr yn allweddol ond dwi'n ffyddiog bydd pob dim yn iawn."
Dechrau o ddifri'
Ar un adeg doedd dim sicrwydd y byddai'r daith yn cael ei chwblhau yn sgil achosion Covid i'r naill ochr a'r llall.
Mae'r sefyllfa'n gwbl ddigynsail ac yn anorfod, mewn blynyddoedd i ddod, mi fydd y daith yn cael ei chofio am resymau tu hwnt i'r maes chwarae.
Ond i'r chwaraewyr ffodus yna sydd â'r cyfrifoldeb yng nghrys coch y Llewod, mae yna dal gyfle i greu hanes, i efelychu campau '97 ac i sicrhau bydd y gyfres yn cael ei chofio am un peth - sef buddugoliaeth yn erbyn y Springboks.
Er mwyn cyflawni hynny bydd gofyn i'r ymwelwyr fod ar eu gorau... nid ar chwarae bach mae llorio pencampwyr y byd.
Ond gydag amgylchiadau gwahanol a diffyg rygbi dros y flwyddyn a hanner diwethaf mae'r sefyllfa ymhell o fod yn ddelfrydol i'r tîm cartref ac o'r herwydd yn anodd proffwydo'r hyn fydd yn digwydd.
Mae'n debygol o fod yn glos, fydd hi ddim yn bert, ond mae'r ddawn gan y Llewod i gipio'r prawf cyntaf, ac os gwnawn nhw yna bydd hynny'n mynd yn bell i benderfynu'r gyfres yn y pen draw.
Gallwch wrando ar sylwebaeth o'r prawf cyntaf rhwng De Affrica a'r Llewod yn fyw ar BBC Radio Cymru, gyda'r rhaglen yn cychwyn am 16:30 ddydd Sadwrn, 24 Gorffennaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2021