Alun Wyn Jones: Y stori dylwyth teg bron yn gyflawn

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Alun Wyn adael y maes o fewn yn munudau agoriadol yn erbyn Japan ar 26 Mehefin

Mae yna rhai chwaraewyr arbennig ond yn ymddangos unwaith mewn cenhedlaeth - y chwaraewyr hynny sydd yn reddfol yn well na'r lleill - rheiny fydd yn cael eu cydnabod yn rhan o chwedloniaeth rygbi Cymru a'r Llewod.

Gareth Edwards, Barry John, Willie John McBride - ac yn gysurus yn eu plith, Alun Wyn Jones.

Ar 26 Mehefin roedd hi'n stori dra gwahanol. Wedi datgysylltu ei ysgwydd yn erbyn Japan, roedd ei ddylanwad ar y Llewod eleni i bob pwrpas ar ben a'r freuddwyd yn deilchion.

Sut felly ma' clo Cymru wedi dychwelyd mewn mis i ennill ei 10fed cap dros y tîm teithiol?

Wel, dim ond fe sydd yn gwybod hynny, ac er y cymorth meddygol oedd yn angenrheidiol wrth gwrs mae'r ymdrech ddiweddaraf yn dangos yn glir ei gymeriad, ei rym corfforol a meddyliol sydd wedi dod i'w symbylu ar hyd ei yrfa.

Pa ryfedd fod 'na lun ohono ar y gwefannau cymdeithasol yn ei ddangos yn cyrraedd glannau De Affrica [yn ddychmygol] yn padlfyrddio!

Dyw'r stori dylwyth teg ddim yn gyflawn eto wrth gwrs ac mi fydd y chwaraewr yn gobeithio creu mwy o hanes yng nghrys coch y Llewod dros y bythefnos nesa'.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Josh Adams wedi sgorio wyth cais yn barod ar y daith

Dewisiadau yn codi aeliau

Tra bod y penawdau yn ddigon naturiol yn amgylchynu Alun Wyn, roedd na siom i eraill o Gymru - neb yn fwy efallai na'r asgellwr chwimwth, siarp Josh Adams.

Wrth sgorio wyth cais ar y daith hyd yma doedd y gŵr o'r Hendy ddim yn gallu gwneud mwy i ddwyn perswâd ar Warren Gatland i'w gynnwys yn Cape Town - mi fydd na syndod ledled Cymru mae'n siŵr ar ôl i'r tîm hyfforddi droi at Duhan van der Merwe ac Anthony Watson yn y tri ôl.

Mae hi wedi bod yn wythnos emosiynol wrth gwrs i Adams wedi genedigaeth ei blentyn cyntaf ac roedd yr emosiwn hwnnw, yn ôl y prif hyfforddwr, yn rhannol gyfrifol am berfformiad llai amlwg yn erbyn y Stormers.

Beth bynnag yw meddylfryd y tîm hyfforddi, mae'r asgellwr yn hynod anlwcus a gobeithio bydd 'na gyfle iddo serennu yn yr ail a'r trydydd prawf.

Yn yr un modd bydd absenoldeb Liam Williams - un o hoelion wyth y gyfres bedair blynedd yn ôl yn Seland Newydd - wedi synnu nifer yn enwedig gan fod Stuart Hogg wedi bod yn hunan-ynysu.

Ar ôl methu cyrraedd y gemau prawf yn 2017, doedd fawr neb yn anghytuno gweld enw Dan Biggar yn safle'r maswr y tro hwn yn enwedig o weld perfformiadau anghyson Owen Farrell o Loegr, ond bydd rhai o'r enwau ymhlith y blaenwyr yn sicr yn codi aeliau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Warren Gatland ddim yn un sy'n sentimental wrth ddewis ei dimau

Yn gawr yn erbyn Seland Newydd, does dim lle y tro hwn i'r wythwr Taulupe Faletau sydd wedi gorfod ildio i Jack Conan o Leinster ac Iwerddon - go brin fyddai unrhyw un wedi darogan hynny rai wythnosau yn ôl.

Ac er bod presenoldeb Wyn Jones yn wobr am ei holl lafur caled, bydd gofyn i'w gyd-chwaraewr o'r Scarlets, Ken Owens fodloni â lle ar y fainc.

Does neb yn gallu amau safon yr unigolion ma' Warren Gatland wedi'u dewis, ond fel cyfanwaith dyw'r unigolion hynny heb gael fawr o gyfle i gyd-dynnu fel tîm, ac eraill yn sgil Covid braidd wedi chwarae o gwbl.

Byddai nifer yma Nghymru wedi gobeithio a disgwyl gweld mwy o gynrychiolaeth yn y prawf cyntaf, a dyw tri yn y 15 cychwynnol a dau ar y fainc ddim efallai'n adlewyrchu'r tymor hyd yma pan goronwyd Cymru'n bencampwyr y Chwe Gwlad.

Ond dyw Warren Gatland ddim yn un am sentiment - fel y dysgodd Brian O'Driscoll yn Awstralia yn 2013 - ac yn fwy aml na heb ma' dewisiadau'r gŵr o Seland Newydd ar hyd y blynyddoedd wedi'u profi'n gywir.

Ond ar drothwy'r gyfres fwyaf swreal erioed, heb yr un cefnogwr yn bresennol yn Ne Affrica, bydd y tîm a'r tactegau'n cael eu gwthio i'r eithaf yn erbyn pencampwyr y byd.

Pynciau cysylltiedig