Cynnydd mewn cwynion 'yn bennaf oherwydd Neil McEvoy'
- Cyhoeddwyd
Roedd y cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion a wnaed am Aelodau'r Senedd y llynedd "yn bennaf" oherwydd y cyn-aelod Neil McEvoy, yn ôl y Comisiynydd Safonau.
Cyfanswm y cwynion a wnaed yn 2020-21 oedd 216, o'i gymharu â 106 yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Gwnaed 97 o gwynion yn erbyn Mr McEvoy, ac fe wnaeth e chwech o gwynion.
Wrth ymateb, cwestiynodd Mr McEvoy dryloywder y broses safonau.
Cafodd Mr McEvoy ei ethol i'r Senedd yn gyntaf fel aelod Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru yn 2016.
Yn ddiweddarach eisteddodd fel aelod annibynnol, cyn colli ei sedd yn etholiad y Senedd fis Mai.
'Gwastraff amser ac arian cyhoeddus'
O'r 97 o gwynion a wnaed yn erbyn Mr McEvoy, barnwyd bod 91 yn dderbyniadwy gan y comisiynydd, Douglas Bain, gyda bron â bod bob un yn gysylltiedig â "methu â chofrestru neu ddatgan buddiant".
Er bod un o'r cwynion yn ei erbyn wedi ei wneud gan swyddog o'r Senedd, gwnaed y 96 arall gan aelodau'r cyhoedd.
Ni chafodd yr un o'r chwe chwyn a wnaed gan Mr McEvoy yn erbyn aelodau eraill eu hystyried yn dderbyniadwy, ac "yn ddiamau fe'u gwnaed mewn ymgais i sgorio pwyntiau gwleidyddol," meddai Mr Bain.
"Aeth Mr McEvoy â llawer iawn o fy amser ac wrth gwrs gwastraffodd hynny lawer iawn o arian cyhoeddus," meddai wrth BBC Cymru.
Mae'r Comisiynydd Safonau yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion am ymddygiad Aelodau'r Senedd.
Penodwyd Mr Bain i'r swydd dros dro ym mis Tachwedd 2019 yn dilyn ymddiswyddiad Syr Roderick Evans.
Fe'i benodwyd i'r rôl am dymor o chwe blynedd ym mis Mawrth.
Wrth gyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2020-21, dywedodd Mr Bain: "Mae'r nifer uchaf erioed o gwynion yn dangos craffu agos gan y cyhoedd ar ymddygiad aelodau.
"Rwy'n fodlon bod bron pob aelod yn parhau i arsylwi ar y safon uchel o ymddygiad a ddisgwylir ganddynt yn gywir.
"Mae'r holl ffigyrau ar gyfer 2020-21 wedi eu gwyro gan ymddygiad un cyn-aelod, Neil McEvoy."
'Cymru'n haeddu gwell'
Wrth ymateb i'r adroddiad, cwestiynodd Mr McEvoy dryloywder y broses safonau a'r ffordd yr ymdriniwyd ag apeliadau, gan ychwanegu ei bod yn "anodd" cymryd y bobl sydd ynghlwm â'r broses "o ddifrif".
"Mae Cymru'n haeddu cymaint gwell," meddai, gan honni bod angen "chwyldro democrataidd".
Roedd 60 o gwynion hefyd am ymddygiad aelodau ar gyfryngau cymdeithasol.
Tra bod gan Aelodau'r Senedd "hawl i ryddid mynegiant," ychwanegodd Mr Bain y byddai'n "atgoffa'r Aelodau o'r angen i fod yn ofalus cyn 'hoffi' neu 'ail-drydar' negeseuon sy'n cael eu postio gan rywun arall".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2020