Neil McEvoy 'wedi torri rheolau etholiadol Senedd Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil McEvoy ei ethol i gynrychioli Canol De Cymru yn Senedd Cymru ym mis Mai 2016

Mae ymchwiliad wedi dod i'r casgliad fod yr AS Neil McEvoy wedi torri rheolau ar ddefnyddio adnoddau Senedd Cymru ar gyfer ymgyrchu etholiadol - a hynny ar 22 achlysur.

Dywed adroddiad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd Douglas Bain fod Mr McEvoy wedi "achosi neu ganiatáu" i filoedd o daflenni etholiad gael eu cynhyrchu yn ei swyddfa.

Fe honnir bod yr AS hefyd wedi cyflogi aelod o staff i drosi deunydd ymgyrchu i'r Gymraeg.

Gwadodd Mr McEvoy y canfyddiadau, gan honni ei fod gyfystyr â "witch-hunt".

Torri rheolau

Dywed adroddiad y comisiynydd, sydd heb ei gyhoeddi ond wedi dod i law BBC Cymru, fod yr AS wedi torri'r rheolau cyn etholiadau yn 2016 a 2017.

Mae'n rhestru 22 o wahanol enghreifftiau lle honnodd Mr Bain fod Aelod Seneddol Canol De Cymru wedi mynd yn groes i'r rheolau sy'n gwahardd defnyddio adnoddau sy'n cael eu talu gan Senedd Cymru ar gyfer ymgyrchu mewn etholiadau.

Ysgrifennodd er "efallai ei bod yn wir" nad oedd Mr McEvoy "yn ymwybodol o fanylion pob achlysur y defnyddiwyd ei swyddfa ar gyfer gwaith y tu allan i'r Cynulliad, mae'n amhosib i mi ddirnad nad oedd yn llwyr ymwybodol bod defnydd o'r fath yn digwydd".

Mae'n benllanw ymchwiliad hir a ddechreuwyd gan y cyn-gomisiynydd safonau Syr Roderick Evans, oedd wedi ei ysgogi gan gŵyn gan gyn-reolwr swyddfa Mr McEvoy, Michael Deem yn 2017.

Daeth cyfraniad Syr Roderick i'r ymchwiliad i ben ar ôl iddo ymddiswyddo ar ddiwedd 2019, ar ôl iddo ddod i'r amlwg bod Neil McEvoy wedi ei recordio'n gyfrinachol.

Roedd Mr McEvoy wedi bod yn aelod o Blaid Cymru ar adeg yr honiadau ac wedi yn bennaeth ar grŵp y blaid ar Gyngor Caerdydd - cafodd ei ddiarddel o'r blaid yn 2018.

Cafodd yr adroddiad ei gynhyrchu fis Mehefin diwethaf, ac fe fydd nawr yn mynd i bwyllgor safonau'r Senedd - fydd yn penderfynu os oedd unrhyw ganfyddiadau o gamwedd, ac os oes unrhyw gosb yn briodol.

Gofynnodd Mr Bain i'r pwyllgor ystyried a oedd yr AS wedi gwneud nifer o wallau "neu a yw maint y tramgwyddo yn dangos diystyru bwriadol a pharhaus" o'r rheolau a'r canllawiau.

Mae'r adroddiad wedi dod i'r amlwg ar ôl i Mr McEvoy gael ei wahardd o'r Senedd heb dâl am 21 diwrnod o achos ei ymddygiad tuag at AS Pontypridd Mick Antoniw fis Rhagfyr diwethaf.

Beth ydy casgliad yr ymchwiliad?

Yn ôl yr adroddiad cynhyrchwyd tua 8,920 o "ddalennau o ddeunydd ymgyrch etholiadol" ar argraffydd yn ei swyddfa ranbarthol yng Nghaerdydd, sy'n cael ei redeg gydag arian o gronfeydd y Senedd.

Mae'n debyg eu bod yn cynnwys 3,000 o daflenni ar gyfer isetholiad Cyngor Caerdydd yn Grangetown yn 2016, a 2,000 o daflenni ar gyfer ward Glan-yr-Afon cyn etholiadau Cyngor Caerdydd yn 2017.

Gwnaethpwyd 1,960 o lythyrau post uniongyrchol ar gyfer Glan-yr-Afon hefyd gan ddefnyddio'r argraffydd.

Honnodd Mr Bain fod Mr McEvoy wedi achosi neu ganiatáu defnyddio'r argraffydd, gan gyfrif am bedwar achos o dorri'r rheolau.

Daeth Mr Bain i'r casgliad fod Mr McEvoy hefyd wedi:

  • achosi neu ganiatáu i argraffydd ar gyfer ymgyrchu a pheiriant plygu papur ar wahân gael eu gosod yn y swyddfa ranbarthol yn 2016 a 2017;

  • achosi neu ganiatáu defnyddio trydan i bweru offer i brosesu dogfennau ymgyrchu gwleidyddol ac etholiadol;

  • cyflogi aelod staff dros dro rhwng Hydref 2016 ac Ebrill 2017, wedi'i dalu o gronfeydd y Senedd, i wneud gwaith cyfieithu ar gyfer ymgyrch wleidyddol ac etholiadol;

  • defnyddio ystafelloedd y Senedd ym mis Rhagfyr 2016 i gyfweld ymgeiswyr ar gyfer swydd trefnydd grŵp ymgyrchu;

  • achosi neu ganiatáu i drefnydd ymgyrch gael ei leoli yn ei swyddfa ranbarthol a gwneud gwaith ymgyrchu.

Roedd enghreifftiau eraill yn ymwneud â chyfarfodydd i drafod materion plaid wleidyddol neu ymgyrch etholiadol yn y swyddfa ranbarthol a storio byrddau etholiadol a phapurau newydd yn y swyddfa ranbarthol honno.

Fe honnir fod pedwar cyfarfod o grŵp Ymgyrch Caerdydd Plaid Cymru hefyd wedi digwydd yn y swyddfa ranbarthol, ac fe gafodd dau eu cynnal mewn ystafelloedd ar ystâd Senedd Cymru ei hun.

Er ei bod yn ymddangos bod Plaid Cymru wedi talu costau defnyddio'r argraffydd, talwyd am y costau rhentu o gronfeydd y Senedd.

Ysgrifennodd Mr Bain fod y gost i'r trethdalwr oddeutu £89. Rhoddwyd amcangyfrif "isel" o gost y camymddwyn honedig cyffredinol fel £3,450.

'Ceisio fy atal rhag trechu'r Prif Weinidog'

Mewn ymateb i ganfyddiadau'r ymchwiliad diweddaraf, dywedodd Mr McEvoy fod yr adroddiad yn "anghywir".

Ychwanegodd y bydd y "cyhoedd yn gweld yr adroddiad hwn fel dim mwy na witch-hunt, gan fod sefydliad Cymru yn gwneud popeth o fewn ei allu i geisio fy atal rhag trechu'r Prif Weinidog ym mis Mai".

"Mae'r ymchwiliad i mi wedi cymryd bron i hanner degawd yn barod a'r prif gasgliadau yw bod rhai cyfarfodydd wedi cael eu cynnal yn fy swyddfa bedair blynedd yn ôl, y rhoddais wybod i'r Comisiynydd amdanynt ar y diwrnod cyntaf, yn ogystal â thua £70 o argraffu a bod rhai taflenni wedi bod yn fy swyddfa, honiad yr wyf yn ei wadu," meddai.

Dywedodd mai'r "unig agwedd gywir" i'r adroddiad oedd sylw gan Mr Bain nad oedd yr achwynydd yn cael ei ystyried yn "dyst cwbl ddibynadwy" a bod dial "ymhlith cymhellion Mr Deem".

Gwnaethpwyd y gŵyn ar ôl i Mr Deem gael ei ddiswyddo gan Mr McEvoy.

Cyfarfodydd

Dywedodd Mr McEvoy fod gwleidyddion o'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi torri rheolau defnyddio ystâd Senedd Cymru ar gyfer cyfarfodydd gwleidyddol pleidiau yn ddiweddar.

Roedd yr achosion, a gyhoeddwyd yn adroddiadau'r pwyllgorau safonau yn 2020, yn cynnwys cyfarfod grŵp y Blaid Lafur lle trafodwyd etholiad cyffredinol 2019, a chyfarfod etholiad cyffredinol Plaid Cymru 2017 gydag ASau ac aelodau seneddol San Steffan.

"Ni wnaeth y cyfryngau ddarlledu hyn ac ni chymerwyd unrhyw gamau pellach," meddai.

Dywedodd Mr Deem na allai wneud sylw ar gynnwys adroddiad cyfrinachol, ond derbyniodd fod ei ymddygiad "yn anghywir" wrth dorri'r rheolau.

"Mae'n hen bryd i Neil ddal ei ddwylo i fyny a chyfaddef yr hyn a wnaeth, yn hytrach na dibynnu ar y cynllwynion didostur hyn tebyg i Trump," ychwanegodd.