Gwahardd Neil McEvoy o'r Senedd am ymddwyn yn 'ymosodol'

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Neil McEvoy Plaid y Genedl Gymreig ar ôl cael ei wahardd o Plaid Cymru

Dywedodd yr AS Llafur Mick Antoniw ei fod wedi bod ofn cael ei fygwth gan aelod arall o'r Senedd ar ôl digwyddiad yna'r llynedd.

Nos Fercher pleidleisiodd y Senedd i wahardd Neil McEvoy o'r siambr tan 21 Ionawr ar ôl i bwyllgor ddyfarnu ei fod wedi ymddwyn yn ymosodol tuag at Mr Antoniw.

Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd cyflog Mr McEvoy yn cael ei dorri am y cyfnod.

Honnodd Mr McEvoy ei fod yn cael ei gosbi am rywbeth sydd ddim yn wir.

Ond dywedodd Mr Antoniw, AS Pontypridd, ei fod yn poeni y gallai gael ei "ymosod arno" gan Mr McEvoy am fisoedd ar ôl y digwyddiad.

Dyfarnodd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd fod Mr McEvoy wedi torri'r cod ymddygiad yn ddifrifol ac wedi "dangosodd dirmyg" at ei gydweithwyr pan fu mewn dadl gyda Mr Antoniw ym mis Mai 2019.

Dilynwyd y canfyddiadau gan ymchwiliad gan y Cyn-Gomisiynydd Safonau, Syr Roderick Evans mewn i'r digwyddiad y tu mewn a thu allan i siambr y Senedd.

Rhoddodd chwe aelod o staff dystiolaeth am y digwyddiad.

Dywedodd Mr Antoniw, oedd wedi cwyno i Syr Roderick am y digwyddiad, bod Mr McEvoy wedi ymddwyn mewn ffordd "fygythiol tuag ato ac wedi codi ei lais," yn dweud "llwfrgi wyt ti o fewn dy grŵp mawr, na'i gael ti".

Dywedodd un tyst ei fod yn "edrych fel petai fod Neil yn mynd i gwffio Mick".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mick Antoniw roedd yn ofni cael ei "ymosod ar" gan Neil McEvoy

Cyhuddwyd Mr McEvoy gan Mr Antoniw o ymosod yn gyhoeddus "ar onestrwydd adroddiad y pwyllgor, y tystion annibynnol, a'i hunain".

"Mewn ffordd sydd bron fel Trump, awgrymodd ar ei gyfryngau cymdeithasol ei fod yn cael ei erlid gan y pwyllgor oherwydd ei fod yn Gymro o leiafrif ethnig."

Ychwanegodd bod Mr McEvoy wedi cael ei brofi i fod yn "fwli cyson a'n fygythiol", a dywedodd fod ei ymddygiad yn cael "effaith negyddol ar weithwyr unigol yn y lle".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Neil McEvoy ei fod yn mynd i gael ei wahardd "am rywbeth dydy e ddim wedi gwneud"

Mae Mr McEvoy yn gwrthod fersiwn Mr Antoniw o'r hyn ddigwyddodd, a honiadau rhai o'r tystion ei fod wedi codi "ddwywaith neu dair" yn y Senedd.

Doedd dim lluniau camerâu CCTV o'r digwyddiad yn y siambr, ond roedd yna rhai o'r tu allan.

Dywedodd Mr McEvoy ei fod yn cwestiynu rhai o'r datganiadau a wnaed gan dystion a'r gŵyn ei hun.

Penderfynodd y pwyllgor beidio gwylio'r lluniau am resymau gwarchod data, gan ychwanegu fod y comisiynydd wedi canfod digon o dystiolaeth i gefnogi'r gŵyn.

Roedd Mr McEvoy, meddai'r pwyllgor, wedi derbyn wrth roi tystiolaeth ei fod "wedi colli'i dymer a bod ei ymddygiad at Mick Antoniw MS yn ymosodol".

"Dyw bod yn ymosodol yn gorfforol ac yn eiriol at unigolyn arall ddim yn dderbyniol mewn unrhyw sefyllfa, ond yn arbennig gan rai sydd i fod i arwain trwy esiampl," medd y pwyllgor.

"Mae gan bawb hawl i deimlo'n ddiogel yn y gweithle, ac yn yr achos hwn ni ddigwyddodd hynny."

Pasiwyd y cynnig i wahardd Mr McEvoy am 21 diwrnod gyda 45 o blaid, a chwech yn ei erbyn.

Pleidleisiodd aelodau Llafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr dros y cynnig, er i AS Llafur Rhiannon Passmore ymatal ei phleidlais ynghyd ag AS UKIP Michelle Brown.

Y chwech a wnaeth bleidleisio yn erbyn y cynnig oedd Caroline Jones a Mandy Jones o'r grŵp Reform, Gareth Bennett a Mark Reckless o blaid Diddymu'r Cynulliad, Neil Hamilton o UKIP a Neil McEvoy ei hun.

Pynciau cysylltiedig