Rhybudd melyn am stormydd i'r rhan fwyaf o Gymru

  • Cyhoeddwyd
StormyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau i'r rhan fwyaf o Gymru.

Bydd y rhybudd mewn grym am 09:00 ddydd Mawrth ac yn parhau tan 06:00 fore Mercher.

Mae posibilrwydd o 20-30mm o law mewn un neu ddwy awr, ac mewn rhai llefydd, bydd hyd at 60mm o fewn tair i chwe awr.

Mae disgwyl y bydd mellt a chenllysg hefyd yn achosi peryglon ychwanegol mewn rhai rhannau o'r wlad.

Bydd y rhybudd mewn grym yn y siroedd canlynol:

  • Sir Gâr

  • Ceredigion

  • Conwy

  • Sir Ddinbych

  • Sir y Fflint

  • Gwynedd

  • Ynys Môn

  • Sir Benfro

  • Powys

  • Wrecsam

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Traffig Cymru Gogledd-Chanolbarth #DiogeluCymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Traffig Cymru Gogledd-Chanolbarth #DiogeluCymru

Pynciau cysylltiedig