Cymru i gael stormydd o daranau wedi'r gwres mawr

  • Cyhoeddwyd
StormFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd o stormydd o daranau yn y de dros y penwythnos

Mae'r gwres eithafol sydd wedi effeithio ar Gymru gyfan ers wythnos wedi dod i ben, gyda'r darogan o law a stormydd o daranau ar draws rhannau helaeth o'r de dros y penwythnos.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod cawodydd trwm taranllyd yn debygol, gyda'r posibilrwydd o hyd at 100mm o law mewn mannau.

Bellach mae rhybudd melyn am stormydd o daranau mewn grym, gydag un arall wedi ei gyhoeddi ar gyfer ddydd Sul.

Mae disgwyl mellt a chenllysg hefyd ar ddiwedd wythnos a welodd y tymheredd yn codi i hyd at 31C yng Nghymru.

Mae yna led siawns y gallai'r amodau gwaethaf arwain at lifogydd a thoriadau trydan.

Ffynhonnell y llun, Met Office
Disgrifiad o’r llun,

Map y rhybudd melyn cyntaf sy'n para tan 22:00 nos Sadwrn

Daeth y rhybudd oren cyntaf erioed yn y DU am wres eithafol i ben yng Nghymru nos Iau.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi darogan yn wreiddiol y byddai stormydd yn effeithio ar ragor o siroedd Cymru dros y penwythnos ond fe gafodd y cyngor ei ddiweddaru ddydd Gwener.

Cafodd dau rybudd newydd ar gyfer stormydd o daranau eu cyhoeddi o ganlyniad.

Daeth yr un cyntaf i rym am 20:00 nos Wener, ac fe fydd yn para tan 22:00 nos Sadwrn.

Mae'n berthnasol i'r siroedd canlynol:

  • Abertawe

  • Blaenau Gwent

  • Bro Morgannwg

  • Caerdydd

  • Caerfyrddin

  • Caerffili

  • Casnewydd

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Merthyr Tudul

  • Sir Fynwy

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Penfro

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Torfaen

Bydd yr ail rybudd yn dod i rym am 05:00 fore Sul ac yn para tan hanner nos. Mae hwnnw'n berthnasol i siroedd Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Pynciau cysylltiedig