Dyn o Aberteifi yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio

  • Cyhoeddwyd
John BellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd teulu John Bell wedi disgrifio'i farwolaeth fel un 'dorcalonnus'

Mae dyn wedi ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe wedi ei gyhuddo o lofruddio John Bell yn Aberteifi.

Cafodd Ashley Keegan, 22, ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth.

Bu farw Mr Bell, 37, o Aberteifi yn dilyn digwyddiad ddydd Mercher ger pont y dref.

Cafodd Mr Keegan, sydd hefyd o Aberteifi, ei gyhuddo ddydd Gwener o'i lofruddio.

Yn dilyn marwolaeth Mr Bell, dywedodd ei deulu mewn datganiad ei fod yn "fab, brawd, tad ac ewythr cariadus a ffyddlon a bydd colled enfawr ar ei ôl".

Pynciau cysylltiedig