Sioc wrth i Jade Jones golli yn rownd gyntaf y taekwondo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Jade JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd y pencampwr Olympaidd Jade Jones sioc yn Tokyo wedi iddi golli yn rownd gyntaf y gystadleuaeth taekwondo.

Roedd Jones, sy'n dod o'r Fflint, yn anelu i fod y ddynes gyntaf i ennill medal aur Olympaidd mewn tair o Gemau yn olynol.

Ond fe gollodd yn annisgwyl o 16-12 i Kimia Alizadeh o'r Dîm Olympaidd y Ffoaduriaid, gafodd fedal efydd yng ngemau Rio 2016.

Yn ddiweddarach fe gollodd Alizadeh yn y rownd gynderfynol i Tatiana Minina, gan olygu diwedd ar obeithion Jones o ennill medal efydd drwy'r repechage.

'Ges i fy nal yn yr ofn'

"Dwi'n meddwl nes i jyst roi gormod o bwysau ar fy hun," meddai Jade Jones, oedd yn amlwg dan deimlad wrth siarad yn ddiweddarach.

"Yn dod allan ro'n i'n teimlo gormod o bwysau ac wedyn mae'r gystadleuaeth gyfan wedi bod mor wahanol i beth dwi wedi arfer efo.

"Fel arfer mae gen i fy nheulu cyfan yna felly pan dwi ofn wrth ddod allan mae'n rhoi'r hwb ychwanegol yna i fi fynd amdani.

"Heddiw ges i fy nal yn yr ofn yna."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kimia Alizadeh yn arfer cystadlu dros Iran cyn iddi adael y wlad

Roedd colli'r cyfle i fynd am aur eisoes yn ergyd fawr i'r Gymraes, oedd yn ffefryn ar gyfer y gystadleuaeth -57kg.

Roedd Alizadeh wedi curo Jones ddwywaith o'r blaen, gan gynnwys ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2015.

Ac er i Jones ennill y rownd gyntaf 6-4, daeth ei gwrthwynebydd yn ôl i gipio'r ddwy nesaf o 6-2 a 6-4 i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Yng ngemau Rio 2016 fe wnaeth Alizadeh hanes fel y ddynes gyntaf o Iran i ennill medal Olympaidd - ond ym mis Ionawr 2020 fe adawodd y wlad am resymau gwleidyddol.

Pynciau cysylltiedig