Yr actores Buddug Williams wedi marw yn 88 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r actores Buddug Williams wedi marw yn 88 oed.
Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel cymeriad Anti Marian ar Pobol y Cwm, rhan a chwaraeodd nes 2016.
Roedd Marian Rees yn un o gymeriadau amlycaf yr opera sebon am flynyddoedd, fel gwraig i Bob Rees ac yna modryb fusneslyd i Denzil Rees.
'Anti Marian' oedd yr ail gymeriad iddi ei bortreadu yn yr opera sebon. Ar ddechrau'r gyfres yn 1974 hi oedd Bet Harries - mam Wayne, Reg a Sabrina.
Wrth ei chofio dywedodd Nest Gwenllian Roberts, Uwch Gynhyrchydd Pobol y Cwm: "Roedd Buddug yn actores wrth reddf, a chanddi ddealltwriaeth ddofn o'r hyn yr oedd ei angen i greu cymeriad cofiadwy.
"Fe saernïwyd dawn Buddug ar hyd degawdau lawer ym myd y ddrama a hynny mewn cwmnïoedd amatur a phroffesiynol.
"Ond fel 'Anti Marian' y caiff ei chofio orau gan filoedd o ddilynwyr Pobol y Cwm ac am greu cymeriad o gig-a-gwaed, busneslyd a holl-bresennol.
"Gyda newyddion heddiw, rydym wedi colli aelod annwyl o deulu estynedig Pobol y Cwm ac rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at ei theulu a'i chyfeillion lawer."
"Roedd hi'n gymeriad a hanner," meddai Emily Tucker, sy'n chwarae rhan Sioned yn Pobol y Cwm.
"I ddweud y gwir roedd ei chymeriad hi'n eitha tebyg i Anti Marian. Roedd hi'n berson agos atoch yn llawn chats.
"Roedd 'da hi ddiddordeb ysol pwy o'n i'n mynd 'da, i ble, beth o'n i'n wisgo a pha liw ond ro'dd hi mor groesawgar pan ddechreuais i 13 mlynedd yn ôl.
"Hi oedd y bos - matriarch ni gyd. Mi fydd colled anferth ar ei hôl hi."
'Gwybod hanes pawb'
Fel Buddug yr oedd Gwyn Elfyn a oedd yn chwarae rhan Denzil yn ei hadnabod gan ei bod yn ffrind i'w fam tra'n dysgu yn ysgol Llanddarog.
"Roeddwn i'n ei 'nabod ers pan yn grwt," meddai wrth siarad â Cymru Fyw nos Sul.
"Ro'dd hi'n gymeriad bywiog, yn llawn sbort. Fe fydden ni'n dau yn aml yn teithio i Gaerdydd yn yr un car ac yn dysgu llinellau ar y ffordd.
"Ro'dd hi'n 'nabod pawb a gwybod hanes pawb. Roedd hi wrth ei bodd yn y gyfres a joio bod ym mwrlwm pethe'.
"Ro'dd hi yn ei wythdegau pan adawodd ac mi wna'th hi ymdopi'n rhyfeddol gyda'r pwysau.
"Anghofia i fyth o'r diwrnod pan o'n i'n teithio i'r Sioe yn Llanelwedd - ro'n i'n dau fod i ffilmio golygfa a hynny yn y cyfnod pan o'dd Pobol y Cwm yn mynd ma's yr un noson â'r ffilmio. Wel o'dd gymaint o draffig ac mi a'th yn rhy hwyr i ni gyrraedd y Sioe a bu'n rhaid i ni ffilmio golygfa hollol wahanol yn y car - a wir ddaethon ni'n dau ben yn iawn.
"Bydd yn rhyfedd hebddi - roedd hi wrth ei bodd yng nghanol popeth."
Merch Cwm Gwendraeth
Fe ymddangosodd Buddug Williams hefyd mewn ffilmiau fel 'Twin Town' a 'Very Annie Mary' yn ystod ei gyrfa.
Roedd hi'n enedigol o Gefneithin ac roedd Cwm Gwendraeth wastad yn agos at ei chalon.
Hyfforddodd fel athrawes yn Ngholeg Y Barri ac yna aeth i ddysgu i Birmingham am gyfnod byr yn y 1950au. Bu hefyd yn athrawes yn Sir Gâr.
Roedd perfformio yn ei gwaed ers yn ifanc - arferai berfformio gyda chwmnïau lleol yn Nghwm Gwendraeth ac yn Birmingham roedd yn rhan o The Welsh Centre Amateur Drama Society.
Noda ei hunangofiant ei bod wedi cael blas mawr yn actio pob cymeriad benywaidd ond un o'r ddrama Under Milkwood, a'i bod wedi teithio i'r Iseldiroedd i berfformio.
Mae'n gadael mab Rhodri. Bu Elwyn, ei diweddar ŵr, farw yn 2011.