Dim disgwyl i bobl fregus gysgodi rhag Covid eto
- Cyhoeddwyd
Ni fydd prif feddyg Cymru yn gofyn i bobl sy'n hynod agored i niwed i gysgodi eto rhag coronafeirws.
Mae gweinidogion Cymru wedi gofyn i 130,000 yng Nghymru ynysu gartref yn ystod cyfnodau clo blaenorol.
Ond yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf, nid yw'r Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton yn disgwyl gorfod gwneud hynny yn y dyfodol.
Daw wrth i'r mwyafrif o reolau Covid gael eu llacio ym mis Awst, er y bydd masgiau wyneb yn dal i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn llawer o lefydd dan do.
Mae Cymru mewn trydedd don o'r pandemig, er bod nifer yr achosion wedi gostwng yn ystod y dyddiau diwethaf.
Mae nifer y bobl sydd angen triniaeth ysbyty yn parhau i fod yn llawer is na'r ffigyrau a welwyd yn ystod yr ail don y gaeaf diwethaf.
'Llwyddiant y rhaglen frechu'
Mewn llythyr a anfonwyd at bobl ar y rhestr gysgodi, dolen allanol, dywedodd Dr Atherton: "Er ein bod wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion yng Nghymru, nid yw hyn wedi arwain at yr un cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynd yn sâl iawn ac angen mynd i'r ysbyty neu farw fel y gwelsom yn y don gyntaf a'r ail.
"Mae hyn yn bennaf oherwydd llwyddiant y rhaglen frechu.
"Gan fod y risg o fynd yn sâl iawn yn is, rwy'n parhau i gynghori pawb ar y rhestr cleifion sy'n cysgodi nad oes angen dilyn mesurau cysgodi ar hyn o bryd ac nid wyf yn disgwyl y bydd angen i mi gynghori 'cysgodi' eto yn y dyfodol."
Ond fe wnaeth Dr Atherton gydnabod fod rhai wedi cael eu cynghori i beidio â chael brechlyn, neu fod â chyflyrau sydd wedi arwain eu meddygon i ddweud wrthyn nhw am barhau i gysgodi.
"Os ydych wedi derbyn cyngor personol sy'n wahanol i'r llythyr hwn dylech ddilyn cyngor eich meddyg eich hun, gan gynnwys ar ragofalon y dylech eu cymryd," meddai.
Mae'r llythyr yn cynnwys cyngor i bobl sy'n agored i niwed yn glinigol ar leihau eu risg, gan gynnwys cwrdd ag eraill y tu allan a sicrhau bod ardaloedd caeedig yn cael eu hawyru.
Ychwanegodd y gallai'r rhestr gael ei newid yn y dyfodol, gyda chynnwys plant yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.
Dywedodd Dr Atherton "ychydig iawn o blant sydd wedi mynd yn ddifrifol wael neu wedi marw o ganlyniad i haint coronafeirws".
O 7 Awst mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ddod â rheolau ar bellhau cymdeithasol i ben mewn adeiladau dan do fel siopau a thafarndai.
Bydd yr holl reolau ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd y tu mewn yn cael eu dileu.
Ond bydd disgwyl i gwmnïau gymryd mesurau i leihau'r risg o Covid.
Bydd masgiau wyneb yn ofyniad mewn siopau, mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond ni fydd eu hangen mewn tafarndai a bwytai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2021