Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio yn Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Blodau
Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau wedi eu gadael yn y man y cafodd John Williams Bell ei drywanu

Mae dyn o Aberteifi wedi ymddangos mewn llys wedi'i gyhuddo o lofruddio John Williams Bell, 37.

Cafodd Ashley Keegan, 22, ei arestio gan Heddlu Dyfed-Powys ar ôl i Mr Bell gael ei ddarganfod ar y ffordd i Bont Aberteifi yn oriau mân ddydd Mercher 21 Gorffennaf.

Ymddangosodd Mr Keegan, o Stryd Golwg y Castell, Aberteifi, trwy gyswllt fideo o Garchar Abertawe.

Siaradodd i gadarnhau ei enw a'i ddyddiad geni yn unig.

Dywedodd Carina Hughes, ar ran yr erlyniad, fod achos marwolaeth Mr Bell wedi ei gadarnhau yn dilyn archwiliad post-mortem.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Bell ei drywanu nifer o weithiau yn Aberteifi

Yn ôl yr adroddiad, cafodd Mr Bell ei drywanu saith gwaith, a bod anaf i'w frest wedi achosi "niwmothoracs".

Pan ofynnwyd iddi gan y Barnwr Paul Thomas QC a gafodd ei drywanu o'r tu ôl, dywedodd Ms Hughes bod "pob un o'r clwyfau trywanu o'r tu ôl".

Cafodd dim cais ei wneud am fechnïaeth, ond fe ofynnodd Dyfed Thomas dros Mr Keegan, i'r gwrandawiad gael ei ail-glywed er mwyn i adroddiad meddygol gael ei gomisiynu i ystyried ei "ffitrwydd i bledio".

Caniataodd y barnwr y cais hwn a neilltuodd dyddiad dros dro ar gyfer 3 Ionawr, 2022.

Pynciau cysylltiedig