Ymosodiad Parc Bute: Heddlu'n arestio merch 16 oed
- Cyhoeddwyd
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i ymosodiad difrifol ym Mharc Bute, Caerdydd wedi arestio merch 16 oed ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Mae dyn 54 oed yn parhau ag anafiadau allai beryglu ei fywyd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn dilyn yr ymosodiad a ddigwyddodd tua 01:00 fore Mawrth, 20 Gorffennaf.
Cafodd y ferch ei harestio nos Lun yn ardal Creigiau'r ddinas ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae dau ddyn o Gaerdydd - Jason Edwards, 25, a Lee William Strickland, 36 - wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio ac mae hwythau hefyd yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.
Mae teulu'r dioddefwr wedi cael gwybod am ddatblygiad diweddaraf yr ymchwiliad i'r ymosodiad ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion heddlu arbenigol.
"Tra bo'r arestiad diweddaraf yma'n gam positif arall, rydym yn dal yn apelio am wybodaeth," meddai arweinydd yr ymchwiliad, y Ditectif Prif Arolygydd Stuart Wales.
"Waeth pa mor ddinod mae'r wybodaeth yn ymddangos, fe allai fod yn allweddol i'n hymchwiliad."
Mae'r llu'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd ym Mharc Bute yn gynnar iawn ddydd Mawrth, 20 Gorffennaf.
Ychwanegodd y Ditectif Prif Arolygydd Wales eu bod "yn benodol eisiau siarad gydag unrhyw un oedd ger pont droed y Mileniwm, sy'n cysylltu Parc Bute a Gerddi Sophia, rhwng hanner nos a 01:20."
Mae Ystafell Digwyddiad Difrifol wedi ei sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Canol Caerdydd ac mae mwy o swyddogion heddlu ar batrôl yn ardal yr ymosodiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2021