Naw mlynedd o garchar am ddynladdiad yng Nghaergybi

  • Cyhoeddwyd
David JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Jones yn cael ei adnabod yn lleol fel DJ

Mae dyn o Gaergybi wedi cael ei ddedfrydu i naw mlynedd o garchar am ladd dyn 58 oed yn y dref.

Roedd Gareth Wyn Jones, 48 oed, o Lôn Deg, Caergybi wedi pledio'n euog i ddynladdiad mewn gwrandawiad blaenorol.

Bu farw David John Jones, 58, mewn ysbyty yn Stoke, ddau ddiwrnod ar ôl cael anafiadau difrifol i'w ben yn dilyn ymosodiad yn ardal Stryd Thomas ar 17 Tachwedd.

Roedd ei anafiadau mor ddrwg fel nad oedd ei ferch wedi adnabod ei thad pan aeth i'w weld yn yr ysbyty.

'Dal i alaru'

Clywodd Llys y Goron Caernarfon - lle cynhaliwyd y gwrandawiad dedfrydu ddydd Mawrth - bod David Jones wedi bod yn gweld ei gyn-bartner, Jane Elizabeth Mitchell, yn ei fflat ar y noson.

Dywedodd David Elias QC, ar ran yr erlyniad, bod eu merch wedi marw ychydig fisoedd ynghynt, ac nad oedd David Jones yn ymdopi'n dda gyda'i marwolaeth.

"Roedd yn dal i alaru pan gafodd ei ladd," meddai.

Nid oedd tystion i'r hyn a ddigwyddodd rhwng y ddau yn y fflat, meddai, ond gwelwyd David Jones gyda gwaed ar ei wyneb, ac ar ôl cyrraedd adref roedd yn cael trafferth anadlu.

Ffynhonnell y llun, Geograph / Terry Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad ar David John Jones yn ardal Stryd Thomas y dref

Cafodd datganiad ar effaith y drosedd ei darllen gan Amy Jones, merch David Jones, lle'r oedd yn dweud pa mor agos yr oedd ei thad at ei deulu.

"Mae fy mhlant - ei wyrion a'i wyresau - wedi'u dryllio. Mae'r ieuengaf yn gwrthod cysgu os nad yw'n cael gwisgo siwmper fy nhad.

"Dwi'n dal i gerdded heibio bwthyn fy nhad, ond does 'na ddim goleuadau, dim ond tywyllwch. Dyna sut mae fy nghalon yn teimlo.

"Y tro diwethaf i mi ei weld, rhoddodd ei ben ar fy ysgwydd a chrïo mewn poen.

"Rhoddais nodyn yn ei boced wrth i'r ambiwlans fynd â fo, yn dweud nad oeddwn i'n gallu dod efo fo oherwydd Covid, ond dywedais fy mod yn ei garu ac y byddwn yn ei bigo i fyny o'r ysbyty.

"Ond fyddwn i byth yn ei weld o'n fyw eto. Roedd o'r person mwyaf anhygoel a chynnes yn y byd. Dwi wedi fy chwalu hebddo fo."

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands ei fod yn farwolaeth "drasig a hollol ddiangen".

Ar ben y ddedfryd o naw mlynedd, cafodd Gareth Wyn Jones ei ddedfrydu i bedair blynedd o garchar ar gyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi heroin hefyd, sy'n gwneud cyfanswm o 13 blynedd dan glo.

Cafodd Jane Elizabeth Mitchell hefyd ei charcharu am dair blynedd ar gyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi heroin.