Sylfaenydd Llyfrau Llafar Cymru yn 'arwres'

  • Cyhoeddwyd
Rhian Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhian Evans wybod, pan oedd hi'n 30 oed, y byddai'n colli ei golwg

Bron i 45 mlynedd ers i wasanaeth Llyfrau Llafar Cymru ddechrau mewn maes parcio yng Nghaerfyrddin, mae'r adnodd wedi profi'n un gwerthfawr dros ben i bobl ddall yn ystod y pandemig.

Erbyn hyn mae tua 450 o bobl ar draws Cymru yn defnyddio'r gwasanaeth pob mis.

Rhian Evans ddechreuodd y gwasanaeth ar ôl cael gwybod, pan oedd hi'n 30 oed, y byddai'n colli ei golwg.

Fel darllenwr brwd a llyfrgellydd ar y pryd, roedd y newyddion am ei golwg yn "gnoc ofnadw".

Ond roedd Rhian yn benderfynol o fyw ei bywyd yn llawn, ac fe ddechreuodd gwasanaeth papurau newydd ar lafar i bobl ddall a rhannol ddall yn 1976.

"Diddordeb drosto i'n hunan o'dd e yn y lle cynta' achos pan golles i' ngolwg yn 30 oed o'n i'n methu darllen y papur lleol, ac un o'r pethe o'n i'n hoffi 'neud bob wythnos o'dd darllen newyddion am bobl o'n i'n 'nabod a beth o'dd yn digwydd yn y cylch," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cynllun Casetiau Cymraeg oedd enw'r gwasanaeth yn wreiddiol, cyn troi'n Llyfrau Llafar Cymru

Gyda phwyllgor o wirfoddolwyr, aeth ati i ddechrau recordio newyddion y Carmarthen Journal yn stiwdio Radio Ysbyty Glangwili.

"Welon ni o ymateb pobl bod y gwasanaeth yn angenrheidiol ac yn dderbyniol iawn, felly rhoddodd hynny hwb i ni fynd ymlaen."

Sylweddolodd yn fuan wedyn mai "fawr ddim" o lyfrau Cymraeg oedd ar gael wedi eu recordio ar y pryd.

Ac felly y cam nesaf oedd recordio llyfrau cyfan yn Gymraeg a Saesneg - ac fe ddechreuodd y gwasanaeth yna yn 1979 dan yr enw Cynllun Casetiau Cymraeg.

Mae'r cynllun yn dal i fodoli, bellach dan enw Llyfrau Llafar Cymru, ac mae'n wasanaeth i bobl ar draws y wlad.

Dywedodd Rhian nad oedd hi fyth wedi disgwyl dathlu 40 mlynedd gyda 450 o bobl yn derbyn llyfr llafar bob mis.

Ychwanegodd bod "derbyniad gwych" wedi bod i'r gwasanaeth, a bod y llythyron a galwadau sy'n dod i'r gwirfoddolwyr yn "galondid" iddyn nhw, ac yn rhoi teimlad o "roi gwasanaeth sydd yn werthfawr i bobl".

Disgrifiad o’r llun,

I Rita Brown, mae Rhian yn "arwres" am ei gwaith gyda'r llyfrau llafar dros y blynyddoedd

Un sy'n wrandäwr cyson ar y papur newydd a'r llyfrau ydy Rita Brown, sy'n derbyn y recordiadau i'w chartref yng Nghaerfyrddin.

A hithau bron yn 90 ac wedi colli ei golwg yn fuan ar ôl ymddeol yn 60, dywedodd bod Rhian yn "arwres" am ei gwaith.

"Mae'n wasanaeth gwerthfawr iawn i ni sydd ddim yn gallu darllen, mae'n rhywbeth i edrych 'mlaen i gael gwrando ar y llyfrau - 'da ni'n cael llyfrau diddorol iawn," meddai.

"Oni bai am Rhian, fi'n siŵr bydde fe ddim wedi gallu para cymaint a mae wedi.

"A hi sy' wedi ysbrydoli tipyn o' ni, chi 'mod. Mae hi'n arwres i fi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Hughes yn un o'r gwirfoddolwyr sy'n dal i gynnal y gwasanaeth hyd heddiw

Mae'r gwasanaeth yn dal i gael ei redeg gan wirfoddolwyr, er ar gryno ddisgiau maen nhw'n recordio bellach yn hytrach na chasét.

Mae dros 2,500 o lyfrau wedi eu recordio, ac mae gan y tîm stiwdio yng Nghaerfyrddin erbyn hyn - Tŷ Llafar.

Gwaith tîm sy'n gyfrifol am y gwaith, meddai Rhian, ac mae'r tîm i gyd yn "teimlo rhyw falchder bod y peth wedi bod cymaint o lwyddiant, ac yn awyddus nawr i weld y gwasanaeth yn parhau ac yn mynd o nerth i nerth".

Wedi pedair canrif o'r gwasanaeth, mae Rhian hefyd wedi ei pherswadio i ysgrifennu hunangofiant.

'Bron cystal â llyfr'

I lawer sy'n defnyddio'r gwasanaeth, mae Rhian yn ysbrydoliaeth, sydd heb adael i'w hanabledd ei dal yn ôl mewn unrhyw fodd. Nawr mae hi'n benderfynol na fydd technoleg yn gwneud popeth.

"'Wi'n cael ambell i recordiad synthetig o leisiau, ma' nhw fel peiriannau, a dwi ddim yn mwynhau gwrando ar rheiny o gwbl," meddai.

"Mae'n well o lawer i glywed y llais dynol yn darllen llyfr.

"Na 'wi'n credu bod e'n hyfryd i fedru cydio mewn cryno-ddisg, mae bron cystal â chydio mewn llyfr."

Pynciau cysylltiedig

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol