Heddlu'n chwilio am dri dyn wedi i ddynes gael ei threisio
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion ar ôl i ddynes gael ei threisio yng Nghrughywel.
Roedd hi'n cerdded ar hyd Ffordd Aberhonddu ger ysgol gynradd y dref, am tua 04:00 fore Mawrth, 27 Gorffennaf, pan ddaeth tri dyn yn gwisgo mygydau duon tuag ati.
Dywed yr heddlu bod un o'r dynion wedi gafael ynddi, ac yna wedi ei threisio.
Yn ôl y disgrifiad a roddwyd i'r heddlu, roedd o'n ddyn tal, yn ei arddegau hwyr neu 20au cynnar, yn gwisgo cap ac esgidiauAdidas duon oedd yn sgleiniog ar un ochr.
Nid oes disgrifiad o'r ddau ddyn arall, ar wahân i'r ffaith eu bod hwythau'n gwisgo mygydau duon.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un a welodd rhywun o'r disgrifiad yma, rhwng 03:45 ac 04:30 i gysylltu â nhw.
Disgrifiodd y Ditectif Brif Arolygydd Phil Rowe, sy'n arwain yr ymchwiliad, y digwyddiad fel un "dychrynllyd".
"Mae gennym swyddogion arbenigol yn cefnogi'r ddioddefwraig, a'i lles hi yw ein prif ffocws," meddai, gan ychwanegu bod ymchwiliadau eang yn parhau, gyda mwy o blismyn yn yr ardal.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod o ddefnydd i'r heddlu ffonio 101, gan nodi'r cyfeirnod: DP-20210727-024.