Ymosodiadau ar staff cyngor 'bob dydd' ers llacio rheolau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dynes yn gwneud coffi mewn caffi

Bydd rhai staff cyngor yng ngogledd Cymru yn derbyn camerâu corff mewn ymgais i atal ymddygiad ymosodol gan y cyhoedd.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych fod ystod eang o weithwyr sy'n gorfod delio â'r cyhoedd mewn rolau wyneb yn wyneb wedi nodi cynnydd mewn camdriniaeth ers i reolau Covid-19 gael eu llacio dros yr haf.

Ymhlith y gweithwyr yma mae pobl sy'n gweithio mewn cyfleusterau fel toiledau cyhoeddus a chasglwyr sbwriel, yn ogystal â gweithwyr canolfannau hamdden.

"Mae'n rhywbeth sy'n digwydd bob dydd," meddai Tony Ward, Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol Sir Ddinbych.

"Boed yn bobl yn bod yn anghwrtais, yn ymosodol neu'n fygythiol.

"Ac mewn rhai achosion, rydym wedi cael rhai digwyddiadau eithaf cas sydd wedi arwain at ymchwiliadau gan yr heddlu."

'Camerâu i amddiffyn staff'

Dywedodd Mr Ward fod rhai o'r digwyddiadau wedi cynnwys cam-drin hiliol, rhywbeth a ddywedodd fod gan y cyngor bolisi o ddim goddefgarwch tuag ato.

Ychwanegodd nad oedd am ddatgelu manylion am ddigwyddiadau unigol er mwyn amddiffyn preifatrwydd staff ac oherwydd, mewn rhai achosion, mae ymchwiliadau gweithredol gan yr heddlu o hyd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tony Ward fod y twf yn nifer yr ymwelwyr yn golygu bod gwasanaethau dan fwy o bwysau

"Rydym yn cynnig cymorth iechyd a chwnsela galwedigaethol i staff sydd wedi profi problemau ac rydyn ni newydd fuddsoddi mewn camerâu corff i'n staff rheng flaen i'w hamddiffyn, ond hefyd i gasglu tystiolaeth - rhag ofn bod angen i ni gofnodi unrhyw beth i'r heddlu os bydd troseddau yn cael eu cyflawni," meddai.

Nid yw'r camerâu yn cael eu rhoi i'r holl staff sy'n delio â'r cyhoedd, ond dywedodd y byddai'r cyngor yn edrych ar ehangu eu defnydd pe bai'n teimlo bod angen gwneud hynny.

Dywedodd Mr Ward ei bod yn anodd esbonio pam fod y broblem wedi cynyddu ond dywedodd fod y twf yn nifer yr ymwelwyr yn golygu bod gwasanaethau dan fwy o bwysau, er enghraifft ciwiau hirach mewn toiledau cyhoeddus.

Ond ychwanegodd ei fod yn gymysgedd o ymwelwyr a phobl leol a oedd yn cam-drin staff.

'Iaith sarhaus ac ymddygiad ymosodol'

Mae'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, a'r ffaith bod mwy o bobl yn gorfod hunan-ynysu ac aros i ffwrdd o'r gwaith, yn golygu bod llawer o fusnesau yn ceisio ymdopi â'r galw gyda llai o staff na'r arfer.

Mae Jamie Groves yn reolwr ar Denbighshire Leisure Ltd, cwmni sy'n rhedeg ystod eang o gyfleusterau hamdden ledled y sir.

Ymhlith y cyfleusterau mae caffis a bariau fel y rhai yng Nghanolfan Nova yn Prestatyn, ble mae galw "digynsail" yn achosi i bobl wylltio, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jamie Groves yn annog y cyhoedd i gael mwy o "ddealltwriaeth" tuag at staff sydd dan bwysau

"Rydyn ni wedi gweld newid gwirioneddol mewn ymddygiad.

"Mae'n ymddangos bod llai o amynedd ac efallai diffyg dealltwriaeth ein bod ni i gyd yn hynod o brysur.

"Rydyn ni'n trio ein gorau ond mae'n ymddangos bod pobl eisiau pethau ar unwaith, ac mae wedi cael effaith ar ein gweithlu."

Dywedodd Mr Groves fod y cam-driniaeth hwn gan y "lleiafrif" o gwsmeriaid yn gyfuniad o "iaith fudr a sarhaus" ac "ymddygiad ymosodol", ac mae'n annog y cyhoedd i gael mwy o ddealltwriaeth tuag at staff lletygarwch.

Mae gan far a bwyty Canolfan Nova bellach dîm diogelwch ar waith i ddelio â chwsmeriaid sy'n ymddwyn yn annerbyniol.