Nofiwr sydd wedi'i pharlysu yn bwriadu creu hanes

  • Cyhoeddwyd
Paula Craig
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Paula Craig ei tharo gan gar tra ar ei beic yn 2001

Mae cyn-heddwas a gafodd ei pharlysu mewn damwain beic 20 mlynedd yn ôl yn anelu i nofio Môr Udd (English Channel).

Mae Paula Craig, o Sir Benfro, yn gobeithio dod y person cyntaf ag anaf llinyn asgwrn y cefn llwyr i nofio'r Sianel heb siwt wlyb.

Bydd Ms Craig, 56, yn nofio fel rhan o dîm ras gyfnewid o chwech, a fydd yn nofio, yn eu tro, am awr yr un.

"Os ydych chi'n mynd i wneud her yna waeth i chi ei gwneud hi'n anodd," meddai.

Pan gafodd Ms Craig ei tharo gan gar tra ar ei beic yn 2001, roedd yn gweithio i'r Heddlu Metropolitan yn Llundain ac yn rhedwr marathon a chystadleuydd triathlon.

Dywedodd: "Deffrais ar ochr y ffordd ac rwyf bob amser wedi dweud bod hynny'n beth enfawr mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n credu fy mod wedi dechrau delio ag ef o'r eiliad honno."

Ffynhonnell y llun, Aspire
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paula wedi bod yn ymarfer ar gyfer ei her oddi ar arfordir Sir Benfro

Parhaodd i weithio i'r heddlu, gan godi i reng ditectif arolygydd, yn ogystal â chystadlu fel athletwr cadair olwyn yn rhyngwladol.

I hyfforddi ar gyfer ei her ddiweddaraf a fydd yn digwydd ar 16 Awst, mae Ms Craig, sydd bellach yn byw yn Llundain, wedi bod yn nofio oddi ar arfordir Abergwaun, Sir Benfro.

Mae ei pharatoadau wedi cynnwys nofio am 90 munud, cyn cael egwyl ac yna awr arall o nofio - i gyd mewn dŵr o dan 16C.

"Rwy'n gobeithio bod y paratoadau'n anoddach na'r nofio go iawn, oherwydd mae'r paratoadau wedi bod yn anodd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Aspire
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paula (canol) yn codi arian ar gyfer Aspire, elusen asgwrn cefn a'i helpodd ar ôl ei hanaf

Bydd pob un o'r tîm o chwech yn nofio am awr yr un ar y tro.

Ychwanegodd: "Yn amlwg rydych chi yno ar y cwch am bum awr, o bosib yn sâl, o bosib yn teimlo'n ddrwg iawn, gyda'r posibilrwydd o gael eich deffro yng nghanol y nos i gael gwybod eich bod chi nesaf.

"Mae nofio dŵr agored yn wych. Mae'n wych i bawb, ond rydw i'n meddwl fel defnyddiwr cadair olwyn... mae bod allan yn y dŵr heb ddim o'ch cwmpas yn deimlad anhygoel."

Dywedodd ei chwaer Sue Evans fod Ms Craig yn "wydn ac yn benderfynol iawn".

"Nid yw hi byth yn ildio ar unrhyw beth o gwbl. Unrhyw beth mae hi'n ei wneud, mae'n rhaid iddi wneud yn dda iawn," meddai.

"Fyddwn i ddim yn mynd i'r môr yr adeg hon o'r flwyddyn beth bynnag, ond iddi nofio'r Sianel, mae'n eithaf anhygoel."

Pynciau cysylltiedig