Heddlu'n canfod cyllell yn dilyn ffrwgwd ym Mhontypridd

  • Cyhoeddwyd
Stryd fawrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd adroddiadau bod cyllell wedi ei weld yn ystod y ffrae ar stryd fawr y dref

Mae dyn wedi dioddef man anafiadau yn dilyn "ffrwgwd" yng nghanol Pontypridd ddydd Gwener.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar stryd fawr y dref am 17:15 yn dilyn adroddiadau bod "cyllell wedi ei weld" yn ystod ffrae rhwng tri o ddynion.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi darganfod yr arf ar ôl archwilio'r ardal, a'u bod nhw bellach yn ymchwilio i achos y digwyddiad.

Ychwanegodd y llu yn eu datganiad mai digwyddiad unigol oedd hwn, ac nad oedd unrhyw risg pellach i'r cyhoedd.

15 munud cyn i'r heddlu dderbyn yr alwad, daeth pwerau ychwanegol oedd yn galluogi swyddogion i stopio a chwilio pobl ar y stryd, i ben.

Roedd y pwerau yn rhan o'r ymateb i gyfres o achosion diweddar o drais neu fygwth yn ardal Pontypridd.