Darganfod corff bachgen mewn afon ym Mhen-y-bont ar Ogwr

  • Cyhoeddwyd
Afon Ogwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y corff ei ddarganfod yn Afon Ogwr ger Parc Pandy

Mae corff bachgen pum mlwydd oed wedi ei ddarganfod mewn afon ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 05:45 bore dydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod plentyn ar goll yn ardal Sarn.

Daeth swyddogion o hyd i gorff y bachgen yn Afon Ogwr ger Parc Pandy.

Cafodd y plentyn ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ond daeth cadarnhad ei fod o wedi marw.

Mae'r teulu bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae ymchwiliad ar y gweill i'r hyn ddigwyddodd ac mae'r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn yr ardal am tua 05:45.

Dywedodd y prif arolygydd Geraint White: "Mae hwn yn ddigwyddiad ofnadwy o drist, lle mae plentyn ifanc yn anffodus wedi marw.

"Rydyn ni'n cydymdeimlo'n arw gyda'r teulu, ac yn barod i'w cefnogi ym mhob ffordd y gallwn ni."