Cyfres 2021: De Affrica 27-9 Llewod

  • Cyhoeddwyd
dathluFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd enillydd y gyfres yn Ne Affrica yn cael ei benderfynu yn y prawf olaf ar ôl i'r Llewod golli o 27-9 i'r Springboks yn yr ail brawf yn Cape Town.

Wedi hanner cyntaf agos, fe wnaeth y tîm cartref reoli'r ail hanner gan sgorio dau gais i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Er bod perfformiad De Affrica gryn dipyn yn well na'r hyn a welwyd yn y prawf cyntaf, bydd Warren Gatland a'r Llewod yn siomedig gyda sawl agwedd o'r gêm, yn bennaf eu disgyblaeth yn y chwarter olaf.

Yr ymwelwyr oedd ar y blaen o 9-6 ar hanner amser wedi tair cic gosb i Dan Biggar a dwy i faswr y Sprinboks, Handrè Pollard.

Ond mewn gêm hynod gorfforol ac ar ôl llawer o sôn am y dyfarnwyr wedi'r prawf cyntaf, roedd disgyblaeth y ddau dîm o dan y chwyddwydr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alun Wyn Jones a Eben Etzebeth yn gwrthdaro yn ystod hanner cyntaf tanllyd

Wedi 23 munud cafodd asgellwr y Llewod, Duhan Van Der Merwe gerdyn melyn am faglu Cheslin Kolbe.

Munud yn ddiweddarach cafodd Kolbe ei hun ei yrru o'r maes am 10 munud wedi iddo ymyrryd â Conor Murray tra roedd o yn yr awyr yn derbyn cic uchel, gan achosi i'r Gwyddel lanio'n beryglus.

Daeth y cais cyntaf ym mhum munud cynta'r ail hanner gyda'r asgellwr Makazole Mapimpi yn dal cic grefftus Pollard, cyn croesi'r gwyngalch gan ddangos ei gyflymder a'i nerth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd yr asgellwr Makazole Mapimpi ei 15fed cais mewn 16 gêm rhyngwladol

Wedi awr o chwarae fe sgoriodd De Affrica eu hail gais.

Wedi sgarmes symudol nerthol gan y tîm cartref fe giciodd y mewnwr Faf de Klerk tu ôl i'r amddiffyn ac fe diriodd y canolwr Lukhanyo Am.

Yn ugain munud ola'r gêm daeth mwy a mwy o gamgymeriadau gan y Llewod wrth iddyn nhw ildio sawl cic gosb a rhoi'r cyfle i Handrè Pollard anelu at y pyst deirgwaith i gynyddu mantais De Affrica.

Gorffennodd y tîm cartref yn gryf gyda'r eilyddion yn cael effaith ar y chwarae.

Mae'r gyfres bellach yn gyfartal, un buddugoliaeth yr un, a bydd yr enillydd yn cael ei benderfynu yn y prawf olaf yn Cape Town y penwythnos nesaf.

Wedi'r gêm fe ddywedodd capten y Llewod, Alun Wyn Jones "Bydd Gats[land] yn gwneud newidiadau ar gyfer y gêm yr wythnos nesaf - bydd e ddim yn ofn gwneud hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Maswr De Affrica, Handrè Pollard, a lwyddodd gyda phum cic rydd a throsiad yn y gêm