Heddlu'n 'cadw meddwl agored' am farwolaeth bachgen ifanc

  • Cyhoeddwyd
parc pandy
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw

Mae'r heddlu'n dweud eu bod nhw'n "cadw meddwl agored" wrth barhau i ymchwilio i farwolaeth bachgen ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd corff y bachgen pum mlwydd oed ei ddarganfod yn Afon Ogwr ger Parc Pandy yn ardal Sarn fore Sadwrn.

Dywedodd y prif arolygydd Geraint White bod swyddogion yn "gweithio'n galed er mwyn deall yr amgylchiadau arweiniodd at y farwolaeth, fel bod modd rhoi atebion i'r teulu".

"Mae nifer o bobl yn y gymuned leol eisiau deall yn union be ddigwyddodd," meddai.

"Mae'r ymchwiliad yn un manwl a sensitif, ac mae nifer o bobl wedi eu heffeithio gan y digwyddiad."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y corff ei ddarganfod yn Afon Ogwr ger Parc Pandy

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 05:45 bore dydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod plentyn ar goll.

Cafodd y plentyn ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ond daeth cadarnhad ei fod wedi marw.

Mae'r teulu yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.