Lleucu Roberts yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lleucu RobertsFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Lleucu Roberts yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod AmGen eleni, a hynny am nofel a luniwyd beth amser yn ôl.

Gan fod trefnwyr eisoes wedi derbyn y beirniadaethau ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion nôl ar ddechrau 2020, eleni penderfynwyd agor yr amlen a gwobrwyo'r enillydd, er mwyn cefnogi'r diwydiant llyfrau yn ystod cyfnod sydd wedi bod mor anodd a llwm.

Mae hi'n ennill y wobr am ei nofel 'Hannah-Jane', sydd meddai'r beirniaid, yn ymddangos yn "stori bur gonfensiynol, gymunedol a chysurus" am "hen wreigan gysetlyd", ond sy'n amlygu "dyfnder aeddfetach a hwnnw'n un digon dirdynnol ar brydiau".

Mae Lleucu Roberts yn derbyn Medal Goffa Daniel Owen, sy'n rhoddedig gan Gareth, Cerys a Betsan Lloyd, Talgarreg, a £5,000, yn rhoddedig gan Brifysgol Aberystwyth.

'Dyfnder aeddfetach, dirdynnol'

Bydd enw Lleucu'n adnabyddus iawn i gefnogwyr yr Eisteddfod, gan ei bod hi wedi llwyddo i ennill y "dwbl" 'nôl yn 2014, drwy gipio Gwobr Goffa Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.

Hi oedd y cyntaf i ennill y ddwy brif wobr rhyddiaith yn yr un Eisteddfod.

Y beirniaid oedd Aled Islwyn, Gwen Pritchard Jones a Dafydd Morgan Lewis, a derbyniwyd pum nofel mewn cystadleuaeth a oedd, yn ôl y beirniaid, yn un agos iawn.

Disgrifiad,

Blas o nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen

'Ceridwen' oedd ffugenw Lleucu Roberts, ac wrth siarad am ei nofel 'Hannah-Jane', dywedodd Dafydd Morgan Lewis: "Hon oedd y nofel gyntaf i ddod o'r bocs ac fe wyddwn yn syth y byddai yna deilyngdod eleni."

Traddodwyd y feirniadaeth gan Aled Islwyn, a ddywedodd: "Ar y cychwyn, ymddengys taw stori bur gonfensiynol, gymunedol a chysurus yw hi am fod - un am hen wreigan gysetlyd gyda chyfrinachau'n llechu yn ei gorffennol a hithau'n brysur golli'i chof... yn ogystal â'r dydd.

"Ond yn raddol, amlygir dyfnder aeddfetach a hwnnw'n un digon dirdynnol ar brydiau. Diolch i'r elfen Siapaneaidd yn arbennig, cynigir perspectif gwreiddiol ar aml i sefyllfa gyfarwydd.

"Wrth i'r nofel fynd yn ei blaen, cefais fy hun yn troi'r tudalennau gyda mwyfwy o frwdfrydedd.

"Diolch i'r pum awdur am ddeunydd darllen gwerth cnoi cil trosto. Prin fod trwch blewyn rhwng gweithiau Ceridwen a Mursen: dau awdur o'r iawn ryw a dwy nofel ryfeddol o debyg i'w gilydd o ran themâu a safon.

"Bu'n ddewis anodd, ond wedi dwys ystyried, rydym yn gytûn taw Hannah-Jane gan Ceridwen sy'n cipio'r wobr eleni."

Un o Lanfihangel Genau'r Glyn yw Lleucu Roberts, ond sy'n byw yn Rhostryfan ers bron i dri degawd bellach.

Aeth i Ysgol Rhydypennau, Bow Street ac Ysgol Penweddig, Aberystwyth a chael ei hysbrydoli i ysgrifennu gan ei hathrawon Cymraeg, Alun Jones a Mair Evans.

Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth. Bu am gyfnod yn olygydd yng ngwasg y Lolfa, ond bellach, mae'n gwneud ei bywoliaeth i raddau helaeth drwy gyfieithu, i gwmni Testun Cyf yn bennaf.

Dros y blynyddoedd bu'n ysgrifennu ar gyfer y radio a'r teledu, ac mae wedi gwneud gwaith sgriptio ar nifer o gyfresi drama teledu a radio.

Mae'n awdur saith nofel a dwy gyfrol o straeon byrion i oedolion, ac wyth nofel i blant a phobl ifanc.

Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Pwllheli 1982, gwobr Tir na n-Og ddwy waith am ei nofelau i bobl ifanc, Annwyl Smotyn Bach a Stwff, a Gwobr Goffa Daniel Owen (am ei nofel Rhwng Edafedd) a'r Fedal Ryddiaith (am ei chyfrol o straeon byrion, Saith Oes Efa) yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014.

Cipiodd wobr Barn y Bobl Golwg 360 am Saith Oes Efa fel rhan o wobrau Llyfr y Flwyddyn y 2015.