Covid: 'Masgiau yn debygol o aros am weddill y flwyddyn'
- Cyhoeddwyd
Mae'n debyg y bydd angen i bobl wisgo masgiau i'w hamddiffyn rhag y coronafeirws yng Nghymru am weddill y flwyddyn, yn ôl y Prif Weinidog.
Ond dywedodd Mark Drakeford nad oedd yn rhagweld y byddai angen defnyddio masgiau i amddiffyn pobl rhag afiechydon eraill fel y ffliw.
"Ar hyn o bryd, dwi'n meddwl mae'n fwy neu lai yn debygol y bydd masgiau 'da ni yn ystod y flwyddyn i gyd," meddai wrth siarad â BBC Cymru ddydd Gwener.
"Yn America roedd y cyngor wedi newid i ddweud does ddim rhaid i chi ddefnyddio mygydau, ond nawr mae nhw wedi mynd yn ôl achos mae tystiolaeth sydd wedi dod atyn nhw yn dangos bod mygydau yn dal i fod yn help i amddiffyn ni i gyd."
O ddydd Sadwrn ymlaen, bydd y rhan fwyaf o gyfyngiadau coronafeirws Cymru'n cael eu llacio, gyda'r wlad yn symud i lefel rhybudd sero.
Bydd yr holl gyfyngiadau ar gwrdd â phobl eraill yn cael eu codi a bydd modd i bob busnes ailagor, ond bydd rhai mesurau diogelwch yn parhau mewn grym fel gofyniad i wisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Ond gyda'r canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol yn dod i ben dros y penwythnos, dywedodd Mr Drakeford y bydd yn rhaid i fusnesau lwyddo i berswadio cwsmeriaid ei bod yn ddiogel iddynt ddod yn ôl.
"Bydd yn rhaid iddyn nhw ddangos i'r bobl eu bod nhw wedi rhoi popeth yn ei le i'w gwarchod mewn cyd-destun coronafeirws," meddai.
"Ac mae nifer fawr o fusnesau yng Nghymru yn gwneud gwaith caled a llwyddiannus i wneud popeth fel 'na."
'Hyblygrwydd i fusnesau'
Ychwanegodd y Prif Weinidog fod gan y cyhoedd yr hawl i ofyn i fusnesau i gael gweld eu hasesiadau risg.
"Mae'n ofynnol i bobl sy'n redeg y lle i ddangos yr asesiad risg, ac yn fy marn i, mae'n rhesymol. Os chi'n rhywle a chi'n meddwl nad ydy popeth wedi cael ei wneud yna fe allwch chi ofyn i weld beth sydd wedi cael ei wneud," meddai.
"Yn y mwyafrif o lefydd dwi'n meddwl fydd pobl yn gweld bod pobl wedi gweithio'n galed i roi popeth yn ei le i helpu nhw i fwynhau."
O ddydd Sadwrn, ni fydd angen i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn hunan-ynysu os ydyn nhw'n dod i gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif, ac ni fydd yn rhaid i bobl chwaith roi eu manylion cyswllt i wasanaethau fel rhan o'r system Profi, Olrhain, Diogelu.
"Ni fydd yn angenrheidiol fel y mae wedi bod, ond mae'n rhan o'r rhestr o bethe rhesymol mae busnesau yn gallu eu ddefnyddio os maen nhw'n meddwl bydd hwnna'n ddefnyddiol yn y cyd-destun ble maen nhw'n gweithio.
"Bydd mwy o hyblygrwydd gan fusnesau i wneud beth sydd orau iddyn nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021
- Cyhoeddwyd8 Awst 2021
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021