Rhywiaeth yn dal yn broblem yn y gweithle, medd undebau
- Cyhoeddwyd
Mae undebau'n dweud bod nifer o weithwyr dal yn delio gyda rhywiaeth oherwydd y dillad mae'n rhaid iddyn nhw wisgo.
Daw hyn wedi i dîm Norwy dderbyn dirwy o 1,500 ewro (£1,295) am wisgo siorts yn lle bicinis ym Mhencampwriaeth Pêl-Llaw Traeth Ewrop.
Cafodd rhywiaeth iwnifformau ei wahardd yn 2018, ond mae dal yn achosi problemau yn ôl Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) ac undeb Unsain.
Dywedodd Natasha Davies, o elusen cydraddoldeb rhyw Chwarae Teg: "Mae'r stori ddiwethaf yma [Norwy] yn amlygu'r rhywiaeth ac anghydraddoldeb mae menywod yn parhau i wynebu.
"Os mae'n ofynnol i wisgo sgertiau, sodlau neu golur, neu ddiffyg PPE addas sy'n ffitio, mae menywod yn parhau i fod dan anfantais oherwydd agweddau hynafol yn y gweithle.
"Tra bod rhai amddiffyniadau cyfreithiol yn eu lle, mae'r cyfrifoldeb yn dal ar yr unigolyn i frwydro a falle cymryd cyflogwr i dribiwnlys, sydd medru bod yn brofiad costus."
Mae'r TUC ac Unsain wedi amlygu problemau gydag iwnifformau sydd heb eu dylunio ar gyfer cyrff menywod.
Dywedodd Leanne Holder, perchennog busnes moduro BecauseRacecarBox a chystadleuydd mewn Formula Woman, bod yna broblemau gyda dillad mewn diwydiannau sydd wedi'u dominyddu gan ddynion, megis siwtiau rasio sydd dim yn ffitio menywod.
Dywedodd Ms Holder, 28, o Arberth yn Sir Benfro: "Yn anffodus mae dynion yn parhau i ddominyddu'r diwydiannau rasio a moduro, er bod nifer o fenywod rhyfeddol wedi sefyll lan a chystadlu yn eu herbyn."
"Gydag offer rasio ond nawr yn cael eu dylunio ar gyfer siâp menywod, mae'n amlwg bod ni dal yn bell i ffwrdd o gydraddoldeb cyflawn o fewn y gamp."
"Mae defnyddio siwtiau rasio sy'n baggy, gyda Velcro sydd methu tynnu mewn yn ddigon tynn o gwmpas y canol a ddim yn rhoi digon o le am eich bronnau, yn gallu tynnu eich sylw yn ofnadwy pan 'na gyd rydych chi eisiau 'neud yw canolbwyntio ar y ras yn lle bod yn anghyfforddus."
Ychwanegodd Rhianydd Williams, swyddog cydraddoldeb TUC Cymru: "Rydym wedi gwneud lot o waith ar y menopos ac mae iwnifform yn codi lot o fewn hynny, fel arfer mae ffabrigau wedi'u creu gan ddyn yn boeth, chwyslyd ac yn gyffredinol yn anaddas."
"Un awgrym gan ein cynrychiolwyr undeb yw defnyddio ffabrig naturiol ar gyfer iwnifformau staff."
"Agwedd arall yw polisïau gwallt yn y gweithle, mae rhai siopau mawr yn gorfodi codau gwallt sy'n effeithio ar fenywod du yn bennaf gan nad ydynt yn medru gwisgo eu gwallt naturiol i'r gwaith."
Pwysleisiodd Unsain dylai iwnifformau gael eu dylunio yn benodol i fenywod beichiog, gan ddweud "mae'n fyd o wahaniaeth rhwng rhywbeth sydd wedi'i ddylunio ar gyfer menyw beichiog a dillad sy' jyst yn fwy o faint."
Ydy cyflogwyr yn medru gofyn i ddynion a menywod i wisgo dillad gwahanol?
Ydynt, ond os oes safon yn cael ei osod ar un rhyw, mae rhaid i safon gywerth fodoli am yr un arall.
Dywedodd Ms Williams: "Yn 2008 wnaeth swyddog heddlu gwrywaidd herio cod gwisg. Dywedodd y cod nad oedd ponytails yn addas, felly gwisgodd ei wallt mewn bynen cyn cael ei orfodi i'w dorri i ffwrdd yn gyfan-gwbwl. Dadleuodd dros wahaniaethu ar sgil rhyw gan fynnu roedd o'n cael ei drin yn anffafriol o gymharu â menywod oedd yn medru gwisgo eu gwallt yn y steil yma. Enillodd ei achos."
Beth ddylwn wneud os yw fy nghyflogwr yn gofyn i mi wisgo iwnifform rywiaethol?
Mae'r cyngor o lywodraeth y DU, ond sydd hefyd yn berthnasol i Gymru, yn cynghori gweithwyr i siarad gyda'u rheolwr a cheisio datrys y broblem yn fewnol i ddechrau.
Mae gweithwyr yn medru cymryd yr achos i dribiwnlys, ond dywedodd Ms Davies o Chwarae Teg bod hyn yn medru bod yn helynt "gostus" ac yn gosod y cyfrifoldeb ar yr unigolyn.
"Rydym eisiau i weithwyr wybod bod y gyfraith ar eu hochr nhw ac mae undebau yn gallu eu helpu os yw cyflogwyr yn torri'r gyfraith. Ac rydym eisiau atgoffa cyflogwyr o'u dyletswyddau cyfreithiol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn disgwyl bod pob gweithiwr ar draws Cymru yn cael eu trin gyda pharch ac urddas yn y gweithle."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd26 Medi 2018