Croeso adref i'r pencampwr Olympaidd Lauren Price

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Torf yn croesawu Lauren Price adref
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf tu fas i dŷ Lauren Price

Mae cannoedd o bobl wedi ymgasglu ar strydoedd Ystrad Mynach i groesawu'r pencampwr Olympaidd Lauren Price adref.

Ar ôl pythefnos o gystadlu yn Japan, mae'r bocsiwr wedi dychwelyd i dŷ ei nain yn Sir Caerffili.

Llwyddodd Price i ennill medal olaf Tîm Prydain yn Tokyo 2020, gan sicrhau aur yn y bocsio 69-75kg.

Hi yw'r cystadleuydd cyntaf o Gymru i ennill medal aur bocsio yn y Gemau Olympaidd.

Wrth ddod adref i dorf yn rhuo, dywedodd ei bod hi'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth.

"O' ni ddim yn disgwyl gymaint o bobl a hyn... mae'n anhygoel," meddai.

"Dwi mor ddiolchgar i bawb, yn enwedig pobl Cymru.

"Er fy mod i'n Tîm GB dwi'n cynrychioli Cymru pob tro dwi'n cystadlu ac mae'r gefnogaeth wedi bod yn ffantastig, o'n i wir ddim yn disgwyl hyn.

"Diolch am ddod yma a chefnogi fi, mae'n meddwl y byd," ychwanegodd.

Diolchodd Price i'w nain a'i thaid, wrth weld ei nain Linda am y tro cyntaf mewn chwe wythnos.

Fe wnaeth Linda a'i gwr Derek, a fu farw llynedd, fagu Price ers iddi fod yn ifanc iawn.

Dywedodd Price bod cefnogaeth ei nain a'i thaid yn hanfodol i'w llwyddiant ym myd y campau, sydd hefyd yn cynnwys 52 cap i dîm pêl-droed Cymru a phedwar Pencampwriaeth Cic-Bocsio y Byd.

"Hebddi hi ni fyddwn i byth wedi cyflawni fy mreuddwydion. Hi a fy nhaid sydd wedi cefnogi fi ers i mi fod yn dri diwrnod oed a dwi methu diolch iddyn nhw digon," meddai.

"Oedd hi'n ffonio fi ar y ffordd adref ac o ni'n llawn dagrau. Dwi wedi bod i ffwrdd am chwe wythnos, felly i ddod adref a gweld hi wedi bod yn anhygoel."

Pynciau cysylltiedig