Bachgen 12 oed yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad bws
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 12 oed yn parhau yn yr ysbyty wedi i fws deulawr daro coeden ger Abertawe.
Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd y Mwmbwls ger Knab Rock tua 14:30 ddydd Mawrth.
Dyw anafiadau'r bachgen ddim yn rhai sy'n peryglu ei fywyd, yn ôl Heddlu De Cymru.
Bu'n rhaid cludo ail berson i Ysbyty Treforys, Abertawe am driniaeth, ac fe gafodd sawl teithiwr arall eu hasesu a'u rhyddhau yn y fan a'r lle.
Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddydd Mercher mai gwryw yw'r ail berson a gafodd ei gludo i'r ysbyty a bod saith person wedi cael mân anafiadau.
Cafodd tri chriw eu hanfon o dair o orsafoedd y sir mewn ymateb i'r alwad frys, gan symud teithwyr o'r bws, darparu triniaeth a diogelu'r cerbyd.
Roedd y cleifion yn teithio ar un o fysiau gwasanaeth Cymru Coasters cwmni First Cymru, sy'n cludo ymwelwyr â'r ardal rhwng Abertawe a'r Mwmbwls.
Mewn datganiad, dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr y cwmni, Jane Reakes-Davies: "Rydym yn hynod o drist i glywed bod rhai pobl wedi'u hanafu yn ystod y digwyddiad yn y Mwmbwls ddoe ac yn gobeithio byddwn nhw'n gwella'n fuan."
"Hoffwn ddiolch i'n gyrrwr, cwsmeriaid a'r bobl oedd yn cerdded heibio am eu hymatebion cyflym a'u hymdrechion i achub pobl o'r bws a galw'r gwasanaethau brys."
"Rydym yn trin archwiliadau o ddigwyddiadau yn ddifrifol ac yn parhau i gydweithio gyda'r awdurdodau perthnasol i ddeall sut digwyddodd un yma," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2021