'Agorwch ffenestri car am 10 eiliad i leihau risg Covid'
- Cyhoeddwyd
Mae agor ffenestri car am gyn lleied â 10 eiliad wrth yrru yn lleihau'r risg o ledaenu o Covid-19, yn ôl ymchwil newydd.
Dywed ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe bod agor y ffenestri am ond 10 eiliad ar y tro yn medru cael gwared â hyd at 97% o ronynnau coronafeirws o'r car.
Mae hyn yn digwydd oherwydd gwahaniaeth yn y pwysedd aer y tu mewn a thu fas i'r cerbyd wrth iddo symud.
Mae'n creu drafft cryf sy'n sugno'r feirws allan o'r car, meddai'r ymchwilwyr.
Wrth deithio ar gyflymder is na 30mya mae'r adroddiad yn argymell cadw pob ffenestr ar agor.
Dywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Chenfeng Li: "Ar gyflymderau is mae'r gwahaniaeth pwysedd aer lot yn llai felly mae'r aer yn y car yn llai llonydd.
"Yn yr achosion yma rydych chi angen yr awyriad mwyaf posib gyda phob ffenestr ar gael ar agor."
Ond wrth deithio'n gynt, dim ond dwy ffenestr sydd angen eu hagor, un yng nghefn y car ac un yn y blaen.
Daeth yr Athro Li a'r tîm i'r casgliad bod hynny'n hynod o effeithiol wrth gael gwared ar ronynnau aerosol y feirws.
"Mae'r broses mor effeithiol, rydych chi ond angen ei wneud am 10 eiliad ar y tro, pob pump i 10 munud, neu bob tro mae rhywun yn peswch neu disian," meddai.
Darganfyddiad eraill
Mae'r tîm hefyd yn cynghori pobl i eistedd yn seddi blaen ceir yn lle'r cefn oherwydd cyfeiriad llif yr aer drwy'r cerbyd.
"Mae'r cyngor yma yn hynod o berthnasol i yrwyr tacsi a car-shares," meddai.
"Gall hyn fod yn gam hanfodol i leihau'r lledaeniad mewn cerbydau cymunedol wrth i gyfyngiadau lacio, ac rydym yn dechrau teithio mwy."
Fe wnaeth y tîm hefyd ddarganfod bod sgriniau rhwng blaen a chefn y car yn medru gwneud mwy o niwed na budd.
"Yn ogystal â chreu arwyneb ychwanegol i ddiferion lanio arno, mae hefyd yn amharu ar lif yr aer trwy'r cerbyd.
"I deithwyr yn y cefn, mae'r sgriniau yn creu bubble sy'n gwneud hi'n anodd i'r pwysedd aer sugno'r feirws allan."
Pwysigrwydd mygydau
Serch y casgliadau newydd, mae'r ymchwil hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd gorchuddio wynebau i reoli'r feirws.
Dywedodd yr Athro Li mai'r ffordd hawsaf i gadw'n ddiogel mewn cerbyd yw gwisgo mwgwd.
Mae'r ymchwil yn dangos bod gwisgo mwgwd yn lleihau'r siawns o ledaenu'r feirws o 90% wrth gwtogi ar y gronynnau mae teithwyr yn anadlu i mewn o 70%.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2021
- Cyhoeddwyd7 Awst 2021