Ymchwiliad llofruddiaeth wedi i fachgen 2 oed farw
- Cyhoeddwyd

Roedd swyddogion fforensig i'w gweld yn yr ardal ddydd Iau
Mae Heddlu De Cymru'n cynnal ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth bachgen dyflwydd oed o Ben-y-bont ar Ogwr.
Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar ôl cael ei ddarganfod mewn cyflwr difrifol mewn eiddo yn ardal Broadlands y dref nos Fercher.
Bu farw yn yr ysbyty brynhawn Iau.
Mae menyw 31 oed a gafodd ei harestio ar amheuaeth o lofruddio plentyn yn parhau yn y ddalfa.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r eiddo ychydig cyn 20:00 nos Fercher wedi adroddiad bod bachgen dyflwydd oed mewn cyflwr difrifol, a bu swyddogion yn gwneud ymholiadau drws i ddrws ddydd Iau.
Y gymuned 'wedi'i llorio'
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies nos Iau: "Rwy'n deall y bydd y digwyddiad hwn wedi achosi pryder yn y gymuned, ond mae'n rhaid i mi bwysleisio nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r mater hwn ar hyn o bryd.
"Mae'r teulu'n parhau i gael eu cefnogi gan swyddog cyswllt teulu, ac apeliaf ar bobl i beidio dyfalu ar y gwefannau cymdeithasol ar adeg anodd iawn i bawb."
Dywedodd cynghorydd Trelales, Bryntirion a Broadlands, Ian Spiller: "Mae'r gymuned wedi'i llorio'n llwyr gan y newyddion. Rydyn ni gyd wedi ein syfrdanu'n llwyr yn enwedig ar ôl digwyddiadau'r wythnos ddiwethaf.
"I hyn ddigwydd mewn cymuned arall yn ein hardal ni ym Mhen-y-bont... does gen i ddim geiriau ac mae ein cefnogaeth yn mynd i'r rheiny sydd wedi eu heffeithio."

Mewn neges ar wefan Facebook dywedodd Mr Spiller bod modd i'r rheiny sydd eisiau dangos eu cefnogaeth ar yr adeg hon adael teyrngedau a blodau mewn ardal o wyrddni yn agos i'r tŷ rhwng Carreg Llwyd a Chlos Castell Coity.
Ychwanegodd y byddai eglwysi yn Nhrelales a Brodlands ar agor i bobl "fyfyrio" brynhawn dydd Gwener.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Gohebydd y BBC yno yw David Grundy: "Mae Parkwood Heights yma yn Broadands yn hynod dawel.
"Dim ond un o geir yr heddlu sydd yma a'r unig berson arall dwi wedi'i weld yma ydi'r dyn post.
"Yn ystod yr awr ddiwethaf, mae blodau wedi'u gadael ar ochr ffordd Careg Llwyd yma yn Broadlands.
"Mae eglwys a chapel gyfagos wedi agor eu drysau i'r rheiny sydd eisiau deud gweddi i gofio'r bachgen a'i deulu."
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ac yn gofyn i unrhyw un all helpu'r ymchwiliad ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod *282674.