Ymchwil ŵyna'n ceisio rhagweld pryd mae defaid yn esgor
- Cyhoeddwyd
Mae mwy na 10 miliwn o ddefaid yng Nghymru - teirgwaith yn fwy na chyfanswm nifer y bobl. Allwch chi ddim teithio'n bell heb eu gweld ar lethrau'r bryniau.
Ond er bod ffermwyr yn treulio nosweithiau hir, digwsg yn gofalu amdanyn nhw yn ystod y cyfnod ŵyna, mae'n debyg nad ydyn ni'n gwybod llawer am arferion gorffwys defaid beichiog a'r hyn y gall hynny ei ddweud wrthym am sut a phryd y byddan nhw'n ŵyna.
Ar ôl gwneud ymchwil newydd mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gobeithio gallu rhagweld pryd y bydd defaid yn esgor ar ôl llwyddo i ddefnyddio dull newydd o fesur am ba hyd y mae'r anifeiliaid yn gorwedd.
Yng nghyfnodolyn 'Applied Animal Behaviour Science', mae Dr Manod Williams - arweinydd yr ymchwil - yn dangos y gellir defnyddio dyfeisiau mesur - accelerometers - sydd wedi'u gosod ar goesau defaid i amcangyfrif am faint o amser maen nhw'n gorwedd.
Cafodd yr ymchwil ei wneud ar ddwy fferm - Fferm Gogerddan y brifysgol ac yn Llysfasi yn Rhuthun.
Canfu fod yr amser y mae mamogiaid beichiog yn ei dreulio yn gorwedd yn gysylltiedig â nifer yr ŵyn disgwyliedig, eu pwysau geni a'u rhyw.
Roedd mamogiaid sy'n ŵyna tu mewn ac yn cario oen gwryw sengl yn gorwedd am awr yn llai bob dydd na'r rhai oedd yn disgwyl oen benywaidd. Ar gyfer mamogiaid sy'n disgwyl gefeilliaid y tu mewn, canfu'r ymchwilwyr hefyd fod cynnydd ym mhwysau geni'r ŵyn yn golygu llai o orwedd.
Doedd rhyw'r oen ddim yn effeithio ar ymddygiad gorwedd defaid yn y ddiadell ŵyna yn yr awyr agored, ond roedd pwysau geni gefeilliaid yn effeithio ar hyd cyfnod gorwedd ac amlder cyfnodau gorwedd y mamogiaid hyn.
Mae'r astudiaeth yn rhan o ymdrechion i ddatblygu dulliau ffermio da byw manwl ar gyfer y sector defaid, ac i'n galluogi i ddeall ymddygiad mamogiaid beichiog yn well.
Gallai'r dulliau hyn helpu i optimeiddio cyfleusterau a dwysedd stocio yn ystod amseroedd pwysig yng nghalendr ffermwyr.
Yn ogystal, credir y bydd yr ymchwil yn arwain at ragweld pryd y bydd defaid yn esgor trwy nodi'r ffactorau sy'n effeithio ar ba mor hir y maent yn gorwedd.
Dywedodd Dr Williams, "mae diffyg dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n effeithio ar batrymau gorwedd defaid: mae angen i ni ddeall yn well am faint dylen nhw orwedd bob dydd, beth sy'n normal, a pha ffactorau corfforol sy'n effeithio arnyn nhw.
"Mae ŵyna yn gyfnod pwysig o ran lles a pha mor gyfforddus yw dafad, ond dydyn ni ddim yn gwybod llawer am ymddygiad defaid beichiog."
Mae Dafydd Jones - sy'n ffermio ger Machynlleth - wedi rhoi camerâu teledu cylch cyfyng yn un o'i siediau er mwyn arsylwi ymddygiad ei braidd wrth ŵyna.
Mae'n gallu gwylio lluniau byw o'r sied wyna ar sgrin yn ei dŷ: "Trwy arsylwi ar yr anifeiliaid pan nad ydyn nhw'n gwybod mewn gwirionedd eich bod chi'n edrych arnyn nhw, gallwch chi weld mamog sy'n mynd i yna yn ystod yr oriau nesaf - mae hi'n codi, mae hi'n troi o gwmpas, mae hi'n mynd yn ôl i lawr eto. Ac os yw'r cyfnod hwnnw ychydig yn hirach, rydych chi'n gwybod bod yna ychydig o broblem felly mae gwybod am ymddygiad anifeiliaid yn bwysig."
Ychwanegodd Dr Williams: "Bydd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol er mwyn deall ymddygiad defaid yn well, yn enwedig ar adegau pan eu bod nhw dan fwy o straen, megis ŵyna.
"Bydd datblygiad pellach o systemau integredig ar ffermydd yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar ffermwyr er mwyn gwneud penderfyniad rheoli ar lefel anifail unigol yn ogystal â lefel diadell neu fuches.
"Yn ogystal, mae'r canfyddiadau hyn yn golygu ein bod gam yn agosach at fedru darogan yn fanwl pryd fydd defaid yn ŵyna."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2018