Gwasanaeth coffa i fachgen gafodd ei ganfod mewn afon
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaeth coffa wedi cael ei gynnal ger Pen-y-bont i gofio am fachgen pump oed gafodd ei ganfod yn farw mewn afon.
Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Logan Williamson, yn Afon Ogwr yn Abercynffig ar 31 Gorffennaf.
Mae ei lys-tad wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, ac mae ef a mam Logan wedi'u cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Ddydd Sadwrn roedd tua hanner cant o bobl y gymuned yn bresennol mewn gwasanaeth wedi'i drefnu gan Bridgend Community Bereavement Support i gofio am Logan.
Cafodd canhwyllau eu cynnau a lilis eu plannu yn ystod y digwyddiad yn yr ardd goffa ym mhentref Tondu.
Cafodd corff Logan ei ganfod am tua 05:45 ddydd Sadwrn 31 Gorffennaf, wedi adroddiad fod bachgen pump oed ar goll.
Daeth cadarnhad yn ddiweddarach wedi iddo gael ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ei fod wedi marw.
Mae ei lys-tad John Cole, 39, bellach wedi ei gyhuddo o'i lofruddio.
Mae Mr Cole a mam y bachgen, Angharad Williamson, 30, hefyd wedi'u cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cafodd bachgen 13 oed, sydd methu cael ei enwi am resymau cyfreithiol, hefyd ei gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2021
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021