Morfil cefngrwn wedi'i weld oddi ar arfordir Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
morfil cefngrwnFfynhonnell y llun, Ffion Rees - Falcon Boats
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ffion nad oedd hi wedi gweld y creaduryn nyfroedd ynysoedd Prydain o'r blaen

Mae morfil cefngrwn wedi cael ei weld yn nofio oddi ar arfordir Sir Benfro.

Roedd Ffion Rees yn arwain taith gwch yn yr ardal ddydd Mawrth pan welodd hi'r anifail, oedd yn edrych "dan bwysau".

Dyma'r tro cyntaf, meddai, mewn 27 mlynedd o arwain teithiau iddi weld creadur o'r fath yn nyfroedd ynysoedd Prydain.

"Roedd e'n olygfa hynod, ond roedd e hefyd yn drist ei weld e yn y cyflwr yna," meddai.

Ffynhonnell y llun, Ffion Rees - Falcon Boats
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y mamal yn edrych "dan bwysau", meddai

Mae Ms Rees yn rhannu ei hamser rhwng Cymru - ble mae'n arwain teithiau i gwmni Falcon Boats - a'r Antarctig, ble mae'n gweithio fel gyrrwr a darlithydd.

Roedd wedi cyffroi i ddechrau wrth weld y morfil cefngrwn, sy'n gallu tyfu i 55 troedfedd (16.7m) o hyd a phwyso hyd at 40 tunnell.

Ond ar ol edrych eto ar y lluniau fe sylweddolodd ei fod yn edrych fel morfil ifanc oedd ddim mewn cyflwr da.

"Roedd e tipyn dan bwysau. Mae'n bosib ei fod yn un ifanc sydd ddim yn gwneud yn dda ar ôl gadael ei fam," meddai.

Ffynhonnell y llun, Ffion Rees - Falcon Boats
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ffion Rees ei bod hi'n pryderu am les y morfil

Mae morfilod cefngrwn fel arfer yn byw mewn dyfroedd oerach, ond maen nhw'n mudo i lefydd cynhesach i fridio.

"Mater o fwyd yw e, nid y tymheredd," meddai Ms Rees.

"Maen nhw'n bwydo ar gril a physgod bach sydd fel arfer yn niferus iawn yn agos i'r pegynau."

Pynciau cysylltiedig