'Ymosodiad difrifol' ar ddyn ifanc yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Tâp heddlu ger yr archfarchnad

Mae dyn ifanc wedi cael anafiadau difrifol wedi ymosodiad arno ger archfarchnad yn Wrecsam.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ger archfarchnad Morrisons ychydig cyn 12:00 ddydd Sul, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Cafodd dyn 18 oed ei gludo i'r ysbyty, ac yn ôl tystion, roedd yna nifer fawr o swyddogion heddlu yn yr ardal, gan gynnwys swyddogion arfog, ynghyd â chŵn heddlu a hofrennydd.

Cadarnhaodd yr heddlu yn hwyr nos Sul eu bod wedi arestio dau ddyn mewn cysylltiad â'r digwyddiad a'u bod yn cael eu holi yn y ddalfa.

Disgrifiad o’r llun,

Cerbyd heddlu ger archfarchnad Morrisons yn Wrecsam brynhawn Sul

Roedd y llu wedi nodi'n gynharach bod bwriad cael presenoldeb heddlu mwy amlwg yn y ardal weddill ddydd Sul wrth i'r ymholiadau barhau i'r achos.

"Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad yma a hoffwn roi sicrwydd i'r cyhoedd nad oes unrhyw bryderon cyfredol ar ran y gymuned," ychwanegodd eu datganiad.

"Gan fod hwn yn ymchwiliad sy'n parhau, gofynnwn i'r cyhoedd ymatal rhag damcaniaethau ynghylch y digwyddiad yma ar y cyfryngau cymdeithasol."

Mae gofyn i bobl ddyfynnu'r cyfeirnod z119739 os oes gyda nhw wybodaeth all fod o gymorth i'r ymchwiliad.

Pynciau cysylltiedig